Patshyn clyfar: o gymharu â nodwydd hypodermig (unigol), mae ‘patshyn clyfar’ yn cynnwys casgliad o nodwyddau mân (micronodwyddau) a luniwyd i dorri trwy’r croen mewn modd sy’n cyfyngu cymaint â phosibl ar y mewnwthio

Patshyn clyfar: o gymharu â nodwydd hypodermig (unigol), mae ‘patshyn clyfar’ yn cynnwys casgliad o nodwyddau mân (micronodwyddau)

Dyfarnwyd £1.3 miliwn i wyddonwyr o Sefydliad Arloesol Prifysgol Abertawe ym maes Deunyddiau, Prosesau a Thechnolegau Rhifyddol (IMPACT) ac o Japan, er mwyn datblygu pecyn newydd “profion pwynt gofal” sy’n gallu canfod biofarcwyr Clefyd Alzheimer.

Mae’r prosiect yn dilyn y gwaith a wnaeth Dr Sanjiv Sharma yn y maes hwn, oedd yn torri tir newydd, a datblygu ‘patshyn clyfar’ cyntaf y byd ar gyfer COVID-19.

O gymharu â nodwydd hypodermig (unigol), mae ‘patshyn clyfar’ yn cynnwys casgliad o nodwyddau mân (micronodwyddau) a luniwyd i dorri trwy’r croen mewn modd sy’n cyfyngu cymaint â phosibl ar y mewnwthio (yn debyg i batshyn nicotîn) – ac mae eu dyluniad arloesol yn golygu bod modd eu datblygu i ganfod a monitro biofarcwyr penodol yn y croen.

Fel rhan o’r prosiect newydd pwysig hwn bydd Dr Sharma yn arwain consortiwm o wyddonwyr blaenllaw o Brifysgol Abertawe, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Glasgow. Bydd Dr Kaori Tsukakoshi yn llywio’r ymchwilwyr o Japan, fydd yn dod o Brifysgol Amaeth a Thechnoleg Tokyo a Sefydliadau Cenedlaethol Technoleg a Gwyddoniaeth Cwantwm. Ar y cyd byddant yn creu Pecyn Profi Pwynt Gofal i hwyluso diagnosis cynnar a monitro datblygiad y clefyd mewn clinigau sylfaenol neu mewn cartrefi.

Dyma ddywedodd Dr Sanjiv Sharma:

‘Clefyd Alzheimer yw’r math amlycaf o dementia.  Ar hyn o bryd nid oes modd ei drin ac mae’n gysylltiedig â baich cymdeithasol a theuluol trwm, nad yw systemau iechyd gwladol yn barod ar ei gyfer, sy’n golygu bod datblygu cynaliadwy yn her sylweddol.

Rhagwelir y bydd dementia ar fwy na miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig erbyn 2025, ac yn sgîl y gost bresennol o £26 biliwn y flwyddyn i economi’r Deyrnas Unedig, mae goblygiadau ariannol a chymdeithasol aruthrol i hynny. Yn yr un modd, mae cynnydd i’w weld yn yr achosion o Glefyd Alzheimer ymhlith poblogaeth Japan wrth iddi heneiddio. Mae’r cynnydd hwn yng nghyfanswm yr achosion sydd i’w gweld ymhlith pobl 60 oed a throsodd, o 3.5 miliwn o achosion yn 2016 i 4.9 miliwn yn 2026, yn cyfateb i dwf blynyddol o 4%. Mae tueddiadau tebyg i’w gweld ar draws y byd.

Wrth i driniaethau i addasu’r clefyd (DMT) ddod yn bosibl ar gyfer Clefyd Alzheimer, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod rhaid cychwyn unrhyw DMT neu driniaeth ataliol effeithiol yn gynnar iawn ym mhroses y clefyd, sy’n pwysleisio pwysigrwydd diagnosis cynnar ar sail biofarcwyr hawdd eu cyrchu. O ganlyniad, mae datblygu marcwyr anymwthiol ar gyfer patholeg Clefyd Alzheimer mewn samplau gwaed a chroen yn hanfodol er mwyn sgrinio’r boblogaeth oedrannus sydd â thrafferthion cof, a gallai fod yn gam cyntaf at ganfod pa unigolion sy’n wynebu’r risg uchaf o fod â dementia Clefyd Alzheimer.’

Dyma mae Dr Kaori Tsukakoshi (TUAT, Japan) yn ei ddweud:

“Yn ystod y degawd diwethaf, mae biofarcwyr gwaed ar gyfer rhoi diagnosis o Glefyd Alzheimer wedi cael eu hastudio’n helaeth, ac maent yn cael eu sefydlu o’r diwedd. Bydd ein gwaith ymchwil ar y cyd, yn canolbwyntio ar ddatblygu dyfais Profion Pwynt Gofal ar gyfer biofarcwyr Clefyd Alzheimer yn hwyluso proses ddiagnostig newydd ar gyfer y clefyd, fydd yn golygu bod modd i fwy o gleifion sydd â Chlefyd Alzheimer gael eu harwain at DMT sy’n dod i’r amlwg ar gyfer y cyflwr.”

Prosiect ymchwil amlddisgyblaeth yw hwn, a ariannir ar y cyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol – Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig, ac Asiantaeth Ymchwil a Datblygu Meddygol Japan (AMED).

Ariannir rhaglen IMPACT yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Phrifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori