Logo QS World University Rankings

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyflawni ei pherfformiad gorau erioed yn un o’r tablau pwysicaf sy’n rhestru prifysgolion y byd fesul pwnc am yr ail flwyddyn yn olynol.

Lluniwyd Tablau QS o Brifysgolion y Byd fesul Pwnc 2023 gan QS Quacquarelli Symonds, sy'n dadansoddi addysg uwch yn fyd-eang. Er mwyn rhoi'r tablau at ei gilydd, asesodd QS enw da academaidd, enw da ymysg cyflogwyr ac effaith ymchwil, gan ddadansoddi dros 16.4 miliwn o bapurau ymchwil unigryw a greodd bron 117.8 miliwn o ddyfyniadau.  Cafodd 1,597 o sefydliadau eu dosbarthu ar draws 54 pwnc penodol, wedi'u categoreiddio i bum maes pwnc eang.

Yn ôl y tablau diweddaraf, mae Prifysgol Abertawe wedi:

  • Cynyddu nifer y pynciau penodol sy'n cyflawni safle byd-eang o 20 i 23, gan ychwanegu Peirianneg Sifil, Addysg a Lletygarwch a Rheoli Hamdden eleni.
  • Gwella ei safle ar gyfer 11 pwnc.
  • Cyflawni safle ymysg y 100 sefydliad gorau yn y byd ar gyfer pedwar pwnc.
  • Cynnal ei safle ar gyfer saith pwnc arall.

Yn y tablau QS, caiff prifysgolion eu cymharu ar draws ystod o fetrigau sy'n mesur eu perfformiad yn erbyn rhagoriaeth ymchwil (enw da am ymchwil ac effaith dyfyniadau ymchwil) a dewisiadau cyflogwyr wrth recriwtio graddedigion.

Mae trosolwg o berfformiad pynciau yn y safleoedd eleni'n dangos bod y pynciau wedi gwella enw da academaidd ac ymhlith cyflogwyr.

Y pynciau ym Mhrifysgol Abertawe sy'n cael eu cynnwys yn y 200 gorau yn y byd yw:

  • Y Clasuron a Hanes yr Henfyd – 51-90
  • Pynciau sy'n ymwneud â chwaraeon – 51-100
  • Gwyddor Deunyddiau - 95
  • Peirianneg Fecanyddol, Awyrofod a Gweithgynhyrchu - 96
  • Astudiaethau Busnes a Rheoli - 139
  • Iaith a Llenyddiaeth Saesneg - 101 - 150
  • Lletygarwch a Rheoli Hamdden - 151 - 160
  • Y Gyfraith – 101-150
  • Peirianneg Gemegol - 151-200

Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor (Rhyngwladol) Prifysgol Abertawe: "Mae tablau pwnc diweddaraf QS yn ategu ein henw da fel sefydliad byd-eang ar draws amrywiaeth eang o bynciau, ac maen nhw'n cydnabod yr ymchwil a'r effaith ragorol a gyflawnir gan ein cydweithwyr yma ym Mhrifysgol Abertawe.

"Mae'n hynod wobrwyol bod cynifer o'n cyrsiau, unwaith eto, wedi cael eu henwi ymysg y gorau yn y byd a rhaid rhoi clod i'n cydweithwyr am eu gwaith caled parhaus wrth ein helpu i gyflawni'r canlyniadau diweddaraf hyn, sy'n brawf o'n hymagwedd arloesol at ymchwil ac addysg".

Rhannu'r stori