Mae Prifysgol Abertawe'n un o 32 sefydliad ymchwil ledled y DU a fydd yn elwa o gefnogaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) drwy ddyfarniad Cyfrif Cyflymu Effaith gwerth £1.25m dros bum mlynedd.
Mae Cyfrifon Cyflymu Effaith yn galluogi sefydliadau ymchwil i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau sy'n cael effaith yn y gwyddorau cymdeithasol, economaidd ac ymddygiadol. Mae'r cyllid yn creu buddion mwy o ymchwil, gan helpu i greu cymdeithas sy'n fwy ffyniannus, iach a chadarn.
Meddai'r Athro Alison Park, Cadeirydd Gweithredol Interim yr ESRC: “Mae'r ymchwil gymdeithasol, ymddygiadol ac economaidd rydyn ni'n ei hariannu'n ein helpu i ddeall sut rydyn ni'n byw a sut mae ein cymdeithas yn gweithredu, gan daflu goleuni newydd ar y ffyrdd gorau o fynd i'r afael â'n heriau mwyaf difrifol. Mae'r buddsoddiad hwn yn creu rhwydwaith o sefydliadau ymchwil â chyllid penodol i gefnogi a chyflymu effaith yr ymchwil hon.
“Y garfan newydd hon o 32 sefydliad ymchwil sy'n derbyn cyllid Cyfrifon Cyflymu Effaith yw'r grŵp mwyaf a mwyaf amrywiol y mae'r ESRC wedi'i ariannu erioed. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae'r buddsoddiadau hyn yn mwyafu effaith ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol.”
Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae sicrhau cyllid Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC am y tro cyntaf yn hanes Prifysgol Abertawe yn garreg filltir rydyn ni'n hynod falch o'i dathlu. Mae Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC yn ychwanegu at Gyfrif Cyflymu Effaith Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Cyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol a Chyfrif Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Feddygol y gwnaethon ni eu sicrhau yn 2022 ac mae'n dangos bod ymchwil amlddisgyblaethol yn cael ei chynnal yma yn Abertawe sy'n rhagori'n rhagorol ac sy'n creu effaith.
“Mae'r dyfarniadau strategol hyn gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) yn ein galluogi i ymateb i gyfleoedd i gael effaith mewn ffyrdd hyblyg, ymatebol a chreadigol. Drwy ymgysylltu â defnyddwyr, buddiolwyr a phartneriaid ymchwil mewn ffordd ystwyth, rydyn ni'n cyflymu'r broses o greu effeithiau drwy ddefnyddio canfyddiadau a gwybodaeth sy'n deillio o ymchwil.”
Meddai'r Athro Jonathan Bradbury, Deon Cysylltiol – Ymchwil, Arloesi ac Effaith Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae dyfarniad y cyllid Cyfrif Cyflymu Effaith hwn gan yr ESRC yn cydnabod yr ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol sy'n cael ei chynnal yma yn Abertawe yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae'n ein rhoi mewn sefyllfa flaenllaw i hyrwyddo a chyflymu effaith ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol.
“Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni'n defnyddio dyfarniad y Cyfrif Cyflymu Effaith i'n helpu i ddatblygu effeithiau ymhellach i fynd i'r afael â phroblemau mwyaf y byd, yng Nghymru, ledled y DU ac yn rhyngwladol.”
Bydd Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC Prifysgol Abertawe'n canolbwyntio ar ddatblygu effeithiau ymchwil mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc mewn cydweithrediad â phartneriaid mewn llywodraethau, yn y trydydd sector a'r sector preifat. Bydd y dyfarniad yn datblygu effeithiau drwy ddefnyddio ymagweddau gwyddor data o'r radd flaenaf at broblemau cymdeithasol cymhleth, yn ogystal â defnyddio datblygiadau technegol arloesol i fynd i'r afael â phroblemau.
Bydd pwyslais ar fasnacheiddio mentrau arloesol yn y gwyddorau cymdeithasol. I'r un perwyl, byddwn yn datblygu effeithiau ymchwil sy'n mynd i'r afael â heriau i bolisïau lleol ac yn creu atebion ar y cyd â chymunedau a rhanddeiliaid o ran polisïau lleol a fydd yn ystyried anghenion penodol lleoedd unigol. Bydd ymchwilwyr yn cael eu cefnogi wrth ddatblygu cydweithrediadau newydd, gan ddwysáu cydweithrediadau presennol i ddatblygu effaith ymchwil, ynghyd â secondiadau a lleoliadau gwaith.
Defnyddir cyllid y Cyfrif Cyflymu Effaith yn hyblyg ac yn ymatebol i fanteisio ar werth ein hymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol i ddiwallu anghenion newidiol dros y pum mlynedd nesaf. Bydd hefyd yn helpu i wella cyfleoedd ein hymchwilwyr ôl-raddedig a ariennir drwy Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru'r ESRC, gan helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a fydd yn ymrwymedig i ddefnyddio buddion eu hymchwil er lles ehangach.
Rhagor o wybodaeth am gyllid UKRI i fwyafu effaith ymchwil gymdeithasol ac economaidd