Dyfarnwyd £740,000 i dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe i ddatblygu technolegau’r "Rhyngrwyd Pethau" digidol, cynaliadwy ac wedi'u hunan-bweru er mwyn mynd i'r afael â hygyrchedd ar gyfer pobl hŷn.
Mae arbenigwyr yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn gweithio gyda nifer o sefydliadau i fynd i'r afael â'r 'bwlch digidol' ymhlith pobl hŷn a’u annog i fanteisio ar ddyfeisiau'r Rhyngrwyd Pethau.
Mae'r Rhyngrwyd Pethau yn rhwydwaith o wrthrychau cysylltiedig ("pethau") neu ddyfeisiau cyfrifiadura diwifr cysylltiedig sy'n casglu ac yn rhannu data am sut maen nhw'n cael eu defnyddio. Er enghraifft, ffonau ac oriorau clyfar; olrheinwyr ffitrwydd; systemau diogelwch, larymau tân a systemau gwresogi clyfar.
Mae'r dyfeisiau cysylltiedig hyn yn cynnig llawer o fanteision i boblogaeth sy'n heneiddio ond eto i gyd rhagwelir hefyd y bydd angen llawer iawn o ddata arnynt ac y byddant yn defnyddio llawer iawn o ynni.
Nod y prosiect, o'r enw 'Generation: Self powered IOT for people and planet', yw dylunio pecyn cymorth o ddyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau wedi'u hunan-bweru â "mwy o ddata a llai o ynni" heb allgáu pobl hŷn.
Meddai'r Athro Matt Carnie o Brifysgol Abertawe, sy'n arweinydd y prosiect:
"Ceir risg y gallai twf cyflym y Rhyngrwyd Pethau allgáu pobl hŷn sy'n wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at dechnolegau digidol am amryw o resymau - gallai'r rhain fod yn anawsterau corfforol sy'n gysylltiedig ag oedran, diffyg hyder technolegol, neu ofn torri dyfeisiau digidol sy'n ymddangos yn gymhleth ac yn fregus.
Rhwystr allweddol, fodd bynnag, yw’r ‘bwlch digidol’ parhaus yn y DU oherwydd y lefelau is o gysylltedd ymhlith cartrefi hŷn, lle ceir tua 5 miliwn o bobl dros 55 oed nad ydynt ar-lein.
Hyd yn oed ymhlith y rhai sy’n gysylltiedig, mae llawer ohonynt yn dal i fod mewn perygl oherwydd ‘tlodi data’. Yn ôl adroddiad gan Uned Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru, mae mwy a mwy o aelwydydd yn gorfod dewis rhwng talu am ddata Wi-Fi/ffôn symudol neu hanfodion eraill i’r aelwyd megis bwyd a thanwydd.
Ochr yn ochr â hyn mae’r dyfeisiau eu hunain. Mae sawl astudiaeth ac adolygiad o’r ffactorau sy’n gysylltiedig â defnyddio technolegau clyfar a’r Rhyngrwyd Pethau gydag oedolion hŷn wedi nodi bod bywyd batri isel yn fater hollbwysig. Eto i gyd, gallai cynhyrchu a gwaredu miliynau o fatris untro achosi problemau sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd amgylcheddol a phrinder adnoddau technolegau’r Rhyngrwyd Pethau.
Ein nod felly yw dylunio pecyn cymorth o ddyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau wedi'u hunan-bweru er mwyn cyflawni'r ymdrech am "fwy o ddata a llai o ynni" heb allgau pobl hŷn a chymunedau ymylol eraill. Er enghraifft, byddwn yn ystyried datblygu dyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau a allai gael eu pweru gan oleuni dan do.
Rydym am annog pobl i fanteisio ar y rhain oherwydd bod gan ddyfeisiau clyfar ac ymreolaethol lawer o fanteision posibl i boblogaeth sy'n heneiddio, er enghraifft, ym meysydd monitro iechyd, technolegau gwisgadwy a synwyryddion i alluogi oedolion hŷn i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Ceir tystiolaeth gynyddol ei bod hi’n well gan oedolion hŷn fyw'n annibynnol gartref wrth iddynt heneiddio yn hytrach na mynd i gyfleusterau gofal i bobl hŷn – mae hyn yn gysylltiedig â lles gwell a heneiddio'n iach ac mae'n lleihau'r tebygolrwydd o fynd i gartref nyrsio."
Meddai partner y prosiect, Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru:
"Rydym yn falch iawn o gefnogi'r prosiect hwn. Mae gan dechnoleg newydd botensial enfawr i helpu i gefnogi pobl hŷn i fyw'r bywydau o'u dewis. Mae cynnwys oedolion hŷn wrth ddylunio'r technolegau newydd hynny yn hanfodol er mwyn sicrhau eu bod yn gynhwysol ac yn gweithio i'r rhai a fydd yn elwa fwyaf.
O ystyried pwysau presennol yr argyfwng costau byw, mae'r ffaith y bydd yr ymchwil yn ystyried atebion rhad a fydd hefyd yn fwy cynaliadwy yn amgylcheddol yn arbennig o gyffrous. "
Mae'r prosiect, a fydd yn para 36 mis, yn brosiect ar y cyd ag Age Cymru, Trameto, Zimmer & Peacock a Brains4Design ac mae'n cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (yr EPSRC).