I ddathlu ei 10fed flwyddyn, mae Cynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion Prifysgol Abertawe (S4) yn rhoi mynediad agored at ei holl gynnwys gwyddoniaeth ar-lein i athrawon a dysgwyr yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd.
Mae S4 yn helpu i ehangu mynediad at y gwyddorau ac, yn ystod y degawd diwethaf, mae wedi datblygu archif o gannoedd o arbrofion ymarferol, gweithdai, nodiadau athrawon, gweithgareddau, fideos a thaflenni gwaith i gyd-fynd â chwricwlwm gwyddoniaeth Cymru.
O ddydd Mercher 3 Mai, bydd athrawon a dysgwyr yn gallu cael mynediad at yr adnoddau hyn am ddim drwy gofrestru ar gyfer Porth Ar-lein S4.
Meddai'r Athro Mary Gagen, Arweinydd Academaidd prosiect S4: “Gan ein bod ni wedi datblygu ein cynnwys mewn cydweithrediad â'n hysgolion partner a'n cyfranogwyr, rydyn ni'n teimlo ei bod yn ddigon priodol i ni gefnogi'r cwricwlwm gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yng Nghymru.
“Mae'n destun cyffro mawr i ni allu rhannu ein cynnwys blaenorol a gobeithio bod y rhai hynny sydd â diddordeb mewn darparu gweithgareddau cyfoethogi gwyddoniaeth ymarferol i ehangu mynediad at STEM yn mwynhau defnyddio ein deunyddiau.”
Bydd gweminar unigryw ar y diwrnod lansio, sef dydd Mercher 3 Mai am 3.45pm, yn rhoi dealltwriaeth i addysgwyr ynghylch sut i ddefnyddio'r platfform, sy'n cynnwys adnoddau o gyfranogiad S4 yn rhaglen genedlaethol Trio Sci Cymru, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru.
Dros y tair blynedd diwethaf, drwy’r rhaglen, mae S4 wedi gwahodd mwy na 650 o ddisgyblion o gefndiroedd nad ydynt yn ymwneud yn helaeth ag addysg uwch yn draddodiadol i fynd i fan allgymorth pwrpasol ar gyfer gweithdai sy'n seiliedig ar chwilfrydedd ac ymchwil, gan eu haddasu i'w defnyddio ar-lein yn ystod y pandemig.
Bydd y canlynol hefyd ar gael drwy'r porth:
- Dolenni i Earth Live Lessons y biolegydd bywyd gwyllt Lizzie Daly, sy'n trafod pynciau'r Ddaear a chadwraeth megis ecoleg creigresi cwrel a bioleg morgwn morfilaidd.
- Gweithdai a gweithgareddau i'w cwblhau gan fyfyrwyr Safon Uwch wrth iddynt wrando ar gyfres o bodlediadau Prifysgol Abertawe o’r enw Archwilio Problemau Byd-eang.
- Mynediad at adnoddau ar gyfer casgliad gwych S4 o weithdai, megis Space Spectacular, gan helpu disgyblion i archwilio'r hyn sy'n digwydd i'n cyrff yn y gofod a'r hyn sydd yn yr awyr gyda'r nos.
Meddai Rachel Tudor, Tiwtor Allgymorth Arweiniol S4: “Mae gennym ni i gyd ein hoff weithgareddau – mae ein gweithgareddau ffiseg gronynnau ymarferol sy'n defnyddio llysnafedd bob amser yn boblogaidd gyda'r cyfranogwyr, os nad yr athrawon a'r rhieni!
“Mae ein harbrawf luminol yn archwilio bioymoleuedd wrth i ni wylio'r labordy cyfan yn cael ei oleuo'n las, a gwnaethon ni ddatblygu llyfrau swmpus sy’n llawn arbrofion gwyddoniaeth gartref yn ogystal â blychau gwyddoniaeth pan oedd yr ysgolion ar gau yn ystod y pandemig.
“Rydyn ni'n falch o allu rhannu'r adnoddau hyn â phawb, ac rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n cael eu defnyddio i rannu gwyddoniaeth â mwy o gyfranogwyr!”
Cofrestrwch am weminar digwyddiad lansio S4.