Dychwelodd cystadleuaeth The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi’i noddi gan Brifysgolion Santander, yn ddiweddar, gan gynnig hwb mawr i fyfyrwyr entrepreneuraidd am eu syniadau busnes.
Mae'r gystadleuaeth, a gynhelir gan y Tîm Mentergarwch yng Ngwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS) Abertawe, yn cefnogi busnesau newydd myfyrwyr ac yn arddangos rhai o'r meddylwyr disgleiriaf a mwyaf arloesol.
Cyflwynodd 14 o fyfyrwyr eu syniadau busnes yn y digwyddiad. Roeddent yn cynnwys cymorth i lenorion drwy freuddwydion eglur, atebion cynaliadwy i allyriadau diesel, dillad crosio ymarferol, menig paffio fforddiadwy o safon uchel a llawer mwy.
Cyflwynodd pob myfyriwr ei syniad i banel o feirniaid, a ddyfarnodd y canlynol:
- Mwy na £7,000 i bum busnes.
- Naw lle ar raglenni sbarduno pwrpasol a luniwyd gan y Tîm Mentergarwch mewn cydweithrediad â sefydliadau cenedlaethol.
- Pum cyfle masnachu ledled Abertawe.
- Tri mentor o gymuned cyn-fyfyrwyr y Brifysgol.
Bydd yr holl gyfranogwyr yn derbyn rhagor o gymorth busnes a chyfarwyddyd gan y Tîm Mentergarwch.
Roedd y beirniaid eleni'n cynnwys Nicholas Davies, Rheolwr Perthnasoedd Santander ar gyfer Prifysgolion Santander, yn ogystal â thri entrepreneur a raddiodd o Abertawe: Joelle Drummond, Sylfaenydd Drop Bear Beer, Emma Wilkins, Crëwr The Welsh Business Show, a Dr Ben Reynolds, Sylfaenydd Urban Foundry.
Meddai Dr Reynolds: “Roedd rhai syniadau gwych a gyflwynwyd mewn ffordd dda iawn – roedd rhai ohonyn nhw'n addysgol hefyd!
“Roedd yn anrhydedd cael fy ngofyn i eistedd ochr yn ochr â rhai entrepreneuriaid gwych ar y panel beirniadu. Diolch i chi a'r tîm am wneud gwaith mor wych wrth drefnu'r gystadleuaeth fel arfer ac am ofyn i mi fod yn feirniad.”
Mae The Big Pitch ar agor i unigolion o bob disgyblaeth a chefndir, ac nid oes angen profiad blaenorol.
Cyn y digwyddiad, cynigir lle i fyfyrwyr ar weithdy Cyflwyno er mwyn Llwyddo y Tîm Mentergarwch, sy'n cefnogi'r rhai hynny sydd am fireinio'r sgiliau allweddol y mae eu hangen am gynnig llwyddiannus, gan eu galluogi i ddatblygu eu syniadau a theimlo'n hyderus wrth eu cyflwyno'n effeithiol.
Am ei phrofiad o gymryd rhan yn The Big Pitch, meddai Chloe Tulip, sy'n astudio am PhD mewn Seicoleg: “Roedd The Big Pitch yn anhygoel! Rhoddodd hi gyfle i mi fagu hyder wrth drafod fy musnes â chynulleidfa agored a chefnogol. Roedd hi'n ffordd berffaith o gael profiad gwerthfawr a mireinio fy sgiliau er mwyn llwyddo yn y dyfodol.”
Meddai Emma Dunbar, Pennaeth Ymgysylltu, Arloesi ac Entrepreneuriaeth: “The Big Pitch yw cystadleuaeth fwyaf blaenllaw’r flwyddyn yn y Brifysgol o ran mentergarwch myfyrwyr. Bob blwyddyn, mae ehangder a dyfnder syniadau, arloesedd, cymhelliant ac uchelgais ein myfyrwyr yn creu argraff fawr arnon ni, a doedd eleni ddim yn eithriad.
“Dangosodd y myfyrwyr hyn o bob rhan o'r Brifysgol sut gall gwneud yn fawr o’u brwdfrydedd, eu hymchwil a'u creadigrwydd arwain at fusnesau arloesol sy'n newid sectorau.
“Mae mentergarwch yn fyw ac yn iach ym Mhrifysgol Abertawe!”
Rhagor o wybodaeth am fentergarwch myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.