Enwyd Ryan Jones, cyn-gapten Camp Lawn Cymru, yn llysgennad swyddogol Hanner Marathon Prifysgol Abertawe, a gynhelir ar 11 Mehefin 2023.
Fel y llysgennad, bydd Jones wrthi'n hyrwyddo'r ras ac yn annog cyfranogiad gan redwyr o bob lefel, a bydd yn rhedeg ar ran ymgyrch Camau Breision dros Iechyd Meddwl Prifysgol Abertawe, sy'n codi arian ar gyfer ymchwil hanfodol o'r radd flaenaf i atal hunanladdiad, ynghyd â chymorth iechyd meddwl a lles ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
Mae Jones - y dyfarnwyd MBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2021 am wasanaethu i rygbi'r undeb a chodi arian ar gyfer elusennau - yn frwd am godi arian ar gyfer iechyd meddwl ac mae wedi siarad yn agored am ei frwydrau iechyd meddwl ei hun dros y blynyddoedd diweddar.
Yn dilyn ei ymddeoliad yn 2015, cafodd ddiagnosis o ddementia cynnar ym mis Rhagfyr 2021 yn 41 oed, ar ôl dioddef o sawl symptom gan gynnwys iselder a cholli cof.
Wrth gael ei benodi'n llysgennad, meddai Jones: "Rwyf wrth fy modd y gofynnwyd i mi fod yn llysgennad ar gyfer Hanner Marathon Abertawe Prifysgol Abertawe eleni, yn enwedig gan y byddaf yn rhedeg ar ran achos da sy'n agos at fy nghalon, gan obeithio y bydd yn annog eraill i wneud yr un peth.
"Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd. Cefais ddau ysigiad yn fy nghoesau, ac felly, ynghyd â Covid, nid oeddwn yn gallu ymarfer corff rhyw lawer ac felly gwnes gwympo allan o gariad ag ef i raddau. Rwy'n falch o allu dweud fy mod yn dechrau ail-gydio ynddo erbyn hyn ac rwyf yn dechrau canfod fy awydd i ymarfer corff unwaith eto. Mae bod yn yr awyr agored yn fyfyriol i mi a'r dyddiau hyn rwyf yn edrych ymlaen at fy sesiynau hyfforddiant, yn enwedig gan fy mod yn gweld golygfeydd godidog o Benrhyn Gŵyr.”
Hanner Marathon Prifysgol Abertawe, a enwyd ddwywaith fel hanner marathon gorau'r DU, yw un o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd o'i fath yn y DU. Gan ddenu miloedd o redwyr bob blwyddyn, mae'r ras yn enwog am ei llwybr trawiadol, sy'n cynnig golygfeydd godidog o arfordir Cymru.
Mae Jones, a dderbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yn 2016, yn gobeithio y gall ysbrydoli eraill i gofrestru a chodi arian ar gyfer achosion da: "Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyfranogiad yn Hanner Marathon Abertawe eleni'n ysbrydoli eraill i ymuno â mi ar hyd y ffordd. Mae manteision enfawr i redeg, ar gyfer y corff a'r enaid, ac os nad yw rhywun wedi rhedeg o'r blaen, ni ddylai ddigalonni gan fod y corff yn gallu cyflawni pethau anhygoel, bydd yn gwneud beth bynnag y byddwch yn gofyn iddo ei wneud. Meddyliwch amdano fel siwrnai nid cyrchfan!"
Meddai'r Athro Keith Lloyd, Deon Gweithredol a Dirprwy Is-ganghellor, y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: "Mae'n bleser gennym fod Ryan Jones wedi cytuno i fod yn llysgennad ar gyfer Hanner Marathon Prifysgol Abertawe. Mae Ryan yn ffigwr llawn ysbrydoliaeth, ac rydym yn gwybod y gall rasys fod yn ysgogwyr pwerus i bobl sydd am gael ffordd iachach o fyw, felly os ydych yn meddwl am gymryd rhan, byddem yn falch iawn os gallech ystyried rhedeg ar ran yr ymgyrch Camau Breision".
Mae nifer o leoedd gostyngedig ar gael i bobl sy'n gallu codi mwy na £200 ar gyfer ymgyrch Camau Breision y Brifysgol, gyda gostyngiadau cyffredinol pellach ar gael i fyfyrwyr, staff a 150 o raddedigion.
Dywedodd David Martin-Jewell, rheolwr gyfarwyddwr Front Runner Events: "Rydym yn gyffrous iawn i groesawu Ryan fel llysgennad y ras ac rydym yn gobeithio y bydd ei rôl yn helpu i ysbrydoli eraill i gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at gymryd camau breision. Edrychwn ymlaen at gynnal Hanner Marathon Abertawe Prifysgol Abertawe ar11 Mehefin, lle bydd #TeamSwansea yn ymuno â'r miloedd eraill i redeg o'r ddinas i'r môr."
Mae mynediad i Hanner Marathon Abertawe Prifysgol Abertawe dal ar agor ond bydd yn cau am hanner nos ar 26 Mai. I gael gwybod mwy am y digwyddiad ac i gadw eich lle ar y llinell gychwyn, ewch i wefan Hanner Marathon Abertawe.