Bydd ffilm sy'n portreadu effeithiau trawsnewidiol adeilad solar mewn pentref yn India, wedi'i datblygu drwy bartneriaeth dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn cael ei harddangos yn Arddangosiad o fri yr Haf yr Academi Brydeinig.
Mae'r bartneriaeth yn cynnwys sefydliadau eraill yn y DU ac India yn ogystal â phartneriaid diwydiannol a sefydliadau'r trydydd sector.
Am y tro cyntaf, fel rhan o'r digwyddiad am ddim hwn, bydd yr Academi yn gweithio gyda Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes (ICA) ar gyfres o ddangosiadau ffilmiau, gan gynnwys How has a solar building impacted villagers in India? gan Dr Carol Maddock.
Mae'r ffilm yn rhoi cipolwg ar y newidiadau sylfaenol a brofwyd gan y gymuned Khuded yn Maharashtra ar ôl cyflwyno'r adeilad Solar OASIS. Dyma adeilad gweithredol cyntaf India wedi'i ddylunio gan SUNRISE, prosiect dan arweiniad Prifysgol Abertawe sy'n mynd i'r afael â thlodi ynni byd-eang drwy ddatblygu technolegau solar y genhedlaeth nesaf.
Er bod llwyddiant prosiectau fel hyn fel arfer yn cael ei fesur o safbwynt cyflawniadau technegol neu economaidd, bu'r tîm yn ceisio deall beth oedd y canfyddiad o safbwynt y pentrefwyr a oedd wedi helpu i gyd-greu agweddau ar swyddogaethau'r adeilad yr oeddent nawr yn ei ddefnyddio ac yn gweithio gyda'r cyfarpar newydd.
Gan fanteisio ar gyllid gan yr Academi Brydeinig a Grantiau Ymchwil Bach Leverhulme, mae tîm cyfranogiad cymunedol Solar OASIS wedi gweithio gydag InsightShare a Sefydliad y Gwyddorau Cymdeithasol Tata i roi i bentrefwyr y gallu i greu eu fideos byrion eu hun yn archwilio effaith yr adeilad o'u safbwynt nhw.
Meddai Dr Maddock, Swyddog Ymchwil mewn Iechyd y Cyhoedd: "Nid ydym yn gwybod a yw newid i ynni adnewyddadwy yn fuddiol yn gyfartal, yn enwedig ar gyfer y rhai sy'n dibynnu ar danwyddau ffosil yn eu bywydau beunyddiol, fel yn India. Rydym yn disgwyl newidiadau mawr, felly mae'n hollbwysig cael cyfranogiad y rhai mae’r datblygiadau hyn yn debygol o effeithio arnynt.
"Defnyddiodd ein hymchwil ddull fideo cyfranogol gan fabwysiadu’r ymagwedd newid mwyaf arwyddocaol gyda phentrefwyr i roi dealltwriaeth gyd-destunol ddyfnach o newidiadau i ynni adnewyddadwy ar ôl cael mynediad i adeilad cymunedol solar.
"Mae creu, gwerthfawrogi a rhannu gwybodaeth o safbwyntiau gwahanol yn hanfodol wrth ddeall pa newidiadau neu weithredoedd a allai fod yn ofynnol wrth newid i ynni adnewyddadwy, ac mae'r pwyntiau sy'n codi yn y fideo hwn eisoes wedi cynnig sawl gwelliant a chynllun ar gyfer y dyfodol."
Yn ogystal â chyfres o ddangosiadau arbennig, bydd y digwyddiad am ddim yn cynnwys rhaglen lawn o sgyrsiau, perfformiadau, trafodaethau panel a gweithdai ar draws disgyblaethau SHAPE (sef y Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau a'r Celfyddydau ar gyfer Pobl a'r Economi).
Meddai'r Athro Julia Black, Llywydd yr Academi Brydeinig: "Rydym yn llawn cyffro wrth groesawu pobl yn ôl i'r Academi Brydeinig ar gyfer ein Harddangosiad yr Haf, sydd wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2018. Heb os, mae rhannu rhai o'r mewnwelediadau a'r darganfyddiadau mwyaf diddorol a deinamig y mae'r disgyblaethau SHAPE yn eu cynnig, yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn.
"Eleni, byddwn yn cynnal amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein ar draws pynciau a fydd yn apelio at unrhyw un sy'n chwilfrydig am ein byd, am bobl, am gymdeithasau ac am ddiwylliannau, nawr ac yn y dyfodol."