Daeth myfyrwyr ac ymchwilwyr ynghyd i drafod deallusrwydd artiffisial a'i amrywiaeth eang o ddibenion mewn digwyddiad arbennig a gyflwynwyd gan Brifysgol Abertawe.
Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol Canolfan Hyfforddiant Doethurol UKRI mewn Deallusrwydd Artiffisial, Dysgu Peirianyddol a Chyfrifiadura Uwch (AIMLAC) mewn cydweithrediad â Sefydliad Zienkiewicz ar gyfer Modelu, Data a Deallusrwydd Artiffisial ar Gampws y Bae'r Brifysgol.
Cyfrannodd mwy na 50 o gyfranogwyr ran at amrywiaeth eang o gyflwyniadau ar ffyrdd o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol ym meysydd ffiseg gronynnau, seryddiaeth, iechyd a pheirianneg, gan amlygu datblygiadau mewn cyfrifiadureg hefyd.
Roedd llawer o'r siaradwyr yn ymchwilwyr doethurol sy'n gysylltiedig ag AIMLAC a wnaeth fwynhau sesiynau arbennig wedi'u neilltuo i faterion megis llywodraethu deallusrwydd artiffisial.
Trafododd panel – a oedd yn cynnwys Adrian Tate (NAG), Kelly Knock (JD Power), Chris Cormack (Quant Foundry), Paul Coppin (Technology Boutique) a Paige Windiate (Swyddog Cymorth Marchnata Mentergarwch yn Abertawe) – gyflogadwyedd â myfyrwyr o'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol. Gwnaeth sgyrsiau ychwanegol archwilio cyfleoedd i weithio yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol â Debbie Cooper ac yn DiRAC â'r Athro Simon Hands.
Trafodwyd pwnc llosg llywodraethu a pholisi deallusrwydd artiffisial gan banel a oedd yn cynnwys Mike Thomas, Pennaeth Strategaeth a Chydlynu Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth Cymru; Arron Lacey (Sefydliad Alan Turing, sy'n gweithio ym maes iechyd); a Kris Stoddart, Athro Cysylltiol Seiberfygythiadau ym Mhrifysgol Abertawe.
Amlygodd cyflwyniad ychwanegol gan yr Athro Yvonne McDermott Rees a Dr Alice Liefgreen, o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton yn Abertawe, oblygiadau cyfreithiol ffugio dwfn.
Daeth y gynhadledd i ben gyda sesiwn dan arweiniad Kelly Jordan, Uwch-swyddog Entrepreneuriaeth y Brifysgol, am entrepreneuriaeth, pwnc hynod berthnasol i'r myfyrwyr a oedd ar fin graddio.
Meddai'r Athro Gert Aarts, Cyfarwyddwr AIMLAC: “Mae ein cyfarfod blynyddol yn gyfle gwych i gyfuno sgyrsiau ymchwil â sesiynau arbennig wedi’u neilltuo i faterion cyfoes sy'n berthnasol i fyfyrwyr sy'n graddio a'r gymuned ehangach. Rwy'n hynod ddiolchgar i'r gwesteion allanol y mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy, yn enwedig wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddatblygu'n gyflym.”
Rhagor o wybodaeth am y digwyddiad