Rhewlif Thwaites yng ngorllewin Antarctica. Llun: Carl Robinson, British Antarctic Survey

Rhewlif Thwaites yng ngorllewin Antarctica.  Mae datblygiad cynyddrannol yr holl astudiaethau gwyddonol unigol fel yr un hon yn ein galluogi i ddeall newid yn yr hinsawdd.   Llun: Carl Robinson, British Antarctic Survey

Mae'r ddaear o dan y rhewlif sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf yn Antarctica wedi'i mapio am y tro cyntaf, gan dîm sy'n cynnwys arbenigwr o Abertawe, gan helpu gwyddonwyr i feithrin dealltwriaeth well o effaith newid yn yr hinsawdd arno.

Mae dadansoddiad o'r ddaeareg o dan rewlif Thwaites yng ngorllewin Antarctica yn dangos bod llai o graig waddodol na'r disgwyl – canfyddiad a allai effeithio ar y ffordd y mae'r rhew yn llithro i'r cefnfor yn y degawdau nesaf. 

Mae'r rhewlif, sydd yr un maint â Phrydain Fawr neu dalaith Fflorida yn yr Unol Daleithiau, yn un o'r systemau rhew cefnforol sy'n newid ar y gyfradd gyflymaf yn Antarctica.

Cynhaliwyd yr ymchwil dan arweiniad BAS (Arolwg Antarctig Prydain) a bu'r Athro Bernd Kulessa, rhewlifegydd yn Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, yn rhan o'r tîm. Mae'r canfyddiadau wedi arwain at fap newydd o ddaeareg y rhanbarth, a gafodd ei lunio gan ymchwilwyr BAS a'i gyhoeddi yn y cyfnodolyn Science Advances.

Meddai Dr Tom Jordan, geoffisegydd gydag Arolwg Antarctig Prydain, a arweiniodd yr astudiaeth: 

“Mae gwaddodion yn hwyluso llifoedd cyflymach, fel llithro ar laid. Gan fod gennyn ni fap o leoliadau'r gwaddodion llithrig bellach, gallwn ni ragfynegi'n well sut bydd y rhewlif yn ymddwyn yn y dyfodol wrth iddo encilio.”

Mae'r pwynt lle mae rhewlif Thwaites yn cyffwrdd â gwaelod y môr wedi encilio 14km ers diwedd y 1990au. Mae llawer o'r llên iâ o dan lefel y môr ac mae'n agored i golledion rhew cyflym a diwrthdro a allai godi lefel fyd-eang y môr fwy na hanner metr o fewn canrifoedd.

Mae'r gwaith dadansoddi newydd yn seiliedig ar arolygon o'r awyr gan ddefnyddio awyrennau â radar a all weld drwy'r rhew i'r creigiau oddi tanodd, ynghyd â synwyryddion a all fapio mân amrywiadau o ran disgyrchiant a magnetedd filoedd o fetrau o dan y ddaear a gwely'r môr lle mae'r rhewlif yn sefyll.

Yna mae'r ymchwilwyr yn defnyddio'r ffynonellau data lluosog hyn i lunio llun 3D o nodweddion, gan gynnwys mathau a graddau'r creigiau gwahanol.

Nid yw'n amlwg eto sut bydd yr wybodaeth newydd hon am y ddaeareg danrewlifol yn effeithio ar amcangyfrifon o lifoedd a cholledion rhew o Thwaites a rhewlifoedd eraill. Mae'r astudiaeth yn dangos bod y dirwedd ddaearegol yn rheoli'r croeswasgiad gwaelodol yn uniongyrchol, gan ddylanwadu ar ba mor gyflym y gall rhew lifo i'r cefnfor. Bydd aelodau o'r tîm ymchwil bellach yn cynnal astudiaethau manylach o'r prosesau hyn. Efallai y bydd y rhai sy'n llunio modelau hefyd yn gallu defnyddio'r data newydd er mwyn rhagamcanu colledion rhew yn y dyfodol mewn modd mwy dibynadwy.

Meddai'r Athro Bernd Kulessa o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe:

“Mae modd dadlau bod enciliad cyflym parhaus rhewlif Thwaites yn un o'r materion sy'n peri'r ansicrwydd mwyaf wrth ragfynegi'r cynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol. Drwy gyfuno cyfres o setiau data geoffisegol yn yr awyr a'u dadansoddi gan ddefnyddio cysyniadau gwyddoniaeth arloesol, mae ein hastudiaeth yn datgelu'r ddaeareg o dan y rhew am y tro cyntaf.

Mae hyn yn bwysig gan y gall rhew'r rhewlif lithro'n haws dros rai mathau o graig nag eraill, a bydd gwresogi thermol yn helpu'r rhew i lithro hyd yn oed yn gyflymach mewn rhai ardaloedd. Felly, mae ein hastudiaeth yn darparu sail gyffrous a newydd i ragfynegi’n well ddyfodol llifoedd rhew rhewlif Thwaites a'r cynnydd yn lefel y môr.”

Ychwanegodd yr Athro Tom Jordan:

“Drwy ddangos y ddaeareg fanwl, a sut mae'n cyfateb i ffrithiant gwaelodol, rydyn ni'n gobeithio y bydd llai o ansicrwydd yn gysylltiedig â modelau encilio rhewlifol y dyfodol, gan y bydd dealltwriaeth well o fesurau rheoli'r prosesau gwaelodol.

Byddai'n amhosib i unrhyw astudiaeth wyddonol unigol fynd i’r afael â graddfa a her newid yn yr hinsawdd. Ond mae datblygiad cynyddrannol yr holl astudiaethau gwyddonol unigol fel yr un hon yn ein galluogi i ddeall yr her honno a mynd i'r afael â hi.”

Mae'r astudiaeth, gan Tom A. Jordan, Sarah Thompson, Bernd Kulessa a Fausto Ferraccioli, wedi'i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Science Advances.

Mae'r Athro Kulessa yn ymchwilydd o'r DU ar brosiect GHOST (Geophysical Habitats of Subglacial Thwaites), un o wyth prosiect gwyddonol sylweddol a ariennir ar y cyd gan Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol (NSF) yr Unol Daleithiau ac Amgylchedd a Chyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn y DU fel rhan o Gydweithrediad Rhyngwladol Rhewlif Thwaites.  

Stori gan British Antarctic Survey

Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe

 

 

Rhannu'r stori