Mae cerflun newydd wedi'i osod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, sy'n gartref i Gampws y Bae Prifysgol Abertawe, i ddathlu bywyd gwyllt ac amrywiaeth y safle arfordirol gwarchodedig a'i bwysigrwydd i'r gymuned leol.
Wedi'i saernïo gan yr artist a gof o Gymru James Eifion Thomas, mae'r cerflun yn borth i'r safle gwarchodedig hwn, gan ymgorffori elfennau allweddol o'r dirwedd ac yn symboleiddio'r ymrwymiad i warchod ei gynefin ar gyfer pobl a bywyd gwyllt ymhell i’r dyfodol .
Roedd ymwelwyr â'r Twyni a'r gymuned ehangach, yn ogystal â gwesteion proffil uchel o Brifysgol Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, Plantlife a sefydliadau partner eraill, yn bresennol mewn seremoni torri rhuban a gynhaliwyd ddydd Sul 16 Gorffennaf.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys llawer o weithgareddau natur ar gyfer y teulu, gan gynnwys lluniaeth am ddim, Bioblitz, teithiau cerdded natur dan arweiniad a helfa sborion, gan annog ymwelwyr i archwilio'r ardal a gweld yn uniongyrchol bwysigrwydd Twyni Crymlyn.
Mae twyni tywod arfordirol wedi'u rhestru ymhlith y math o gynefinoedd sydd fwyaf mewn perygl o golli bioamrywiaeth yn Ewrop, ac mae Twyni Crymlyn yn lloches hanfodol mewn ardal o ddatblygiad uchel.
Mae'r twyni a'r morfeydd heli yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt prin ac arbenigol, gan gynnwys chwilod teigr twyni a chardwenyn torchfrown, ac maent hefyd yn fan i fyfyrwyr a thrigolion gysylltu â byd natur.
Mae Prifysgol Abertawe, sy'n cydweithio â Dynamic Dunescapes, Buglife a pherchnogion y tir, St Modwen, wedi bod yn gwneud gwaith adfer cynefinoedd i wella cyflwr y Twyni.
Dywedodd Ben Sampson, swyddog cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe a Warden Twyni Crymlyn: "Mae Twyni Crymlyn yn un o'r pocedi olaf o anialwch sydd ar ôl o amgylch arfordir Bae Abertawe. Mae’r twyni a'r corsydd yn gartref i ystod anhygoel o blanhigion ac anifeiliaid.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn ein galluogi i annog y cyhoedd i archwilio'r ardaloedd hyn a deall eu harwyddocâd yn ogystal â chyd-weithio â sefydliadau anhygoel fel Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC) ac ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid. Fel ninnau, maen nhw wedi ymrwymo i achub cynefinoedd sy'n diflannu y mae ein bywyd gwyllt yn dibynnu arnynt."
Ymhen amser, bydd ail gerflun yn cael ei osod wrth y fynedfa arall i'r Twyni – wedi'i ddylunio fel pâr, bydd yr ail gerflun hwn yn adlewyrchu rhai o'r nodweddion a'r dylanwadau mwy yn nhirwedd Twyni Baglan gerllaw.
O ran y weledigaeth sydd wth wraidd dyluniad y cerflun, dywedodd Hannah Lee, Swyddog Ymgysylltu Cymru ar gyfer Dynamic Dunescapes: "Bydd y cerflun yn help mawr i greu ymdeimlad o gyrraedd i bobl sy'n ymweld â Thwyni Crymlyn. Rydyn ni wedi ei ddylunio i gynnwys elfennau o'r safle y mae trigolion lleol yn cysylltu â nhw fwyaf, a byddwch chi'n gweld bod ganddo loÿnnod byw, adar, gweision neidr a mwy wedi'u cydblethu. Rydyn ni am iddo gynrychioli'r presennol yn ogystal â gorffennol a dyfodol y safle."
Cynhaliwyd y digwyddiad ar y cyd gan Dynamic Dunescapes, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Plantlife, Cyfoeth Naturiol Cymru, Partneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot, Buglife, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Sands of LIFE, a Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC).
Mae cydweithrediad y sefydliadau hyn wedi bod yn elfen allweddol o brosiect Dynamic Dunescapes, sy'n ceisio adfer cynefinoedd twyni tywod arfordirol er budd pobl, cymunedau a bywyd gwyllt ledled Cymru a Lloegr.
Mae Dynamic Dunescapes yn brosiect i adfer cynefinoedd twyni tywod arfordirol ar gyfer pobl, cymunedau a bywyd gwyllt ledled Cymru a Lloegr, gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Rhaglen LIFE yr UE. Partneriaid y prosiect yw Natural England, Plantlife, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r Ymddiriedolaethau Natur. Mae Plantlife a Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwain y gwaith yng Nghymru. Mae prosiect Dynamic Dunescapes, Prifysgol Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru a Plantlife yn ddiolchgar am y gefnogaeth ar gyfer y gwaith hwn gan berchnogion tir Twyni Crymlyn, St Modwen.
Ewch i Gynaliadwyedd a Lles ym Mhrifysgol Abertawe a Dynamic Dunescapes am ddiweddariadau ynghylch pryd bydd yr ail gerflun yn cael ei osod.