Mae mwy na 100 o bobl ifanc wedi dod ynghyd â'u teuluoedd a'u ffrindiau i ddathlu graddio o Raglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe mewn seremoni arbennig iawn yn Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe.
Roedd y graddedigion yn rhan o Raglen Camu Ymlaen, rhaglen ehangu mynediad sy'n gweithio gyda grwpiau ledled de-orllewin Cymru sy'n cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch ar hyn o bryd. Mae'r rhaglen yn gweithio'n bennaf gyda myfyrwyr Blwyddyn 12 a'i nod yw helpu i newid bywydau drwy wneud addysg uwch yn hygyrch i bawb, gan gynnwys pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal a gofalwyr ifanc.
Ymunodd y rhai hynny sydd newydd raddio o Raglen Camu Ymlaen â hi ym Mlwyddyn 12 o ysgolion a cholegau ledled y rhanbarth a daethant i ddigwyddiadau amrywiol eleni a arweiniodd at gwrs preswyl wythnos o hyd yn y Brifysgol yn yr haf.
Yn y seremoni raddio ddiweddar, gwahoddwyd y myfyrwyr i'r llwyfan i raddio a chyflwynwyd tystysgrif iddynt gan Gyfarwyddwr Cysylltiol yr Academïau ym Mhrifysgol Abertawe, Jo Parfitt.
Y garfan ddiweddaraf hon o fyfyrwyr yw'r un fwyaf y mae tîm Camu Ymlaen wedi gweithio gyda hwy, ac at ei gilydd mae 138 o fyfyrwyr wedi cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus. Gallant bellach fanteisio ar ostyngiad o 16 pwynt yn eu tariff os byddant yn cyflwyno cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Wrth ddathlu yn y digwyddiad, meddai Freya Jones o Ysgol Dyffryn Aman, sydd am astudio Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn Abertawe: “Cyflwynais i gais i Raglen Camu Ymlaen er mwyn cadarnhau pa yrfa roeddwn i ei heisiau yn y dyfodol, yn ogystal â meithrin dealltwriaeth well o broses y brifysgol ... roeddwn i wir yn teimlo bod pobl yn gwrando ar fy nghwestiynau.”
Meddai Ieuan Davies o Goleg Sir Gâr, sydd am astudio Troseddeg: “Cyflwynais i gais gan fy mod i'n gwybod hyd yn oed ar ddechrau'r flwyddyn y llynedd y byddai'r cwrs hwn yn newid fy mywyd. Roeddwn i'n gwybod, pe bawn i'n ddigon ffodus i gael fy nerbyn, y byddwn i'n cwrdd â ffrindiau newydd ac yn creu atgofion a fyddai'n para am weddill fy mywyd ... yn ogystal â fy ngwneud i'n berson gwell, mae'r cwrs hwn wedi gwneud i fi eisiau bod yn berson gwell.”
Siaradodd Richie Wilkinson, un o gyn-fyfyrwyr Camu Ymlaen sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn fel myfyriwr Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe, am ei brofiadau yn ystod y digwyddiad graddio. Meddai: “Pan oeddwn i'n fyfyrwyr Blwyddyn 12, doedd dim syniad gen i beth gallwn i ei astudio yn y brifysgol – dyna pam dewisais i gyflwyno cais i raglen Camu Ymlaen. Roedd meddwl am fynd i'r brifysgol yn codi ofn arna i. Drwy fy mhrofiad ar y rhaglen, ces i gipolwg mwy manwl ar sut brofiad yw bywyd myfyriwr.
“Hefyd, llwyddais i i feithrin mwy o hyder a daeth y brifysgol yn gam ymlaen yn fy addysg nad oedd yn codi cymaint o ofn arna i.” Mae Richie yn gobeithio bod yn athro ysgol uwchradd yn y dyfodol fel y gall ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.
Meddai Rebecca Griffiths, Uwch-swyddog Datblygu Rhaglen Camu Ymlaen: “Roedd hi'n hyfryd dod ynghyd i wir ddathlu gwaith carfan 2023. Rydyn ni'n gobeithio ein bod ni wedi ysgogi ac ysbrydoli'r myfyrwyr hyn i gyflwyno cais am gwrs yn y brifysgol.
“Byddwn ni'n parhau i gefnogi'r myfyrwyr hyn yn ystod Blwyddyn 13 drwy gynnig y cyfle iddyn nhw fod yn bresennol yn ystod darlithoedd blwyddyn gyntaf ac rydyn ni'n dymuno pob lwc i'n myfyrwyr gyda'u hastudiaethau.”
Cyflwynwyd gwobrau arbennig yn ystod y seremoni raddio yn y categorïau canlynol hefyd:
Cyflwyniad academaidd uchaf: Corinthian Manley a Gagany Dissananyake o Goleg Gŵyr.
Ymrwymiad i'r rhaglen: Louis a William Hutchings o Goleg Castell-nedd Port Talbot a Travis Thorne o Goleg Sir Gâr.