Mae Nofio Cymru, Corff Llywodraethu Gweithgareddau Dyfrol Cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi partneriaeth nodedig â Phrifysgol Abertawe.
Mae'r cydweithrediad newydd hwn dros sawl blwyddyn yn nodi dechrau pennod gyffrous newydd ar gyfer Nofio Cymru a Phrifysgol Abertawe, ac mae'n atgyfnerthu eu hymrwymiad a rennir i feithrin doniau, ysgogi arloesedd a hyrwyddo gweithgareddau dyfrol ar bob lefel.
Gyda'i gilydd, mae Nofio Cymru a Phrifysgol Abertawe'n ymrwymedig i greu rhaglenni a llwybrau ar draws y dirwedd ddyfrol, o gefnogi amgylchedd perfformiad o'r radd flaenaf ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, i archwilio cyfleoedd i gydweithio a fydd yn eu galluogi i wthio ffiniau gwybodaeth ac arloesedd yn ein chwaraeon.
Drwy ddefnyddio arbenigedd, adnoddau ac angerdd y ddau sefydliad, y nod yw datblygu gweithgareddau dyfrol yng Nghymru, tra'n cyflwyno ystod newydd o gyfleoedd i greu effaith gadarnhaol barhaus ar iechyd a lles eu cymunedau.
Daw'r bartneriaeth ychydig fisoedd ar ôl lansio YMLAEN: Strategaeth Gweithgareddau Dyfrol yng Nghymru Nofio Cymru. Nod y strategaeth tair blynedd newydd yw datblygu gweithgareddau dyfrol yng Nghymru, gan gefnogi 500,000 o bobl ar draws Cymru sy'n cymryd rhan bob wythnos, ac arwain y ffordd ar gyfer grwpiau newydd i roi cynnig ar weithgareddau dyfrol.
Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn dechrau ar gyfnod strategol newydd ar gyfer chwaraeon gyda strategaeth chwaraeon newydd a fydd yn tywys y sefydliad dros y deng mlynedd nesaf ym mhob agwedd ar chwaraeon gan gynnwys ymchwil, addysgu, chwaraeon i fyfyrwyr, chwaraeon perfformiad uchel a datblygu isadeiledd ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe. Bydd y strategaeth hon yn sail i Brifysgol Abertawe gael ei chydnabod fel y brifysgol fwyaf actif a llwyddiannus ym maes chwaraeon yng Nghymru.
Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Mae chwaraeon yn elfen arbennig o hanes a threftadaeth Prifysgol Abertawe. Drwy ein strategaeth chwaraeon newydd, rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'n partneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i wneud ein rhanbarth yn brifddinas chwaraeon a lles Cymru.
"Mae'r bartneriaeth strategol newydd hon â Nofio Cymru yn gam pwysig tuag at gyflawni ein nod uchelgeisiol. Mae Nofio Cymru'n bartner naturiol i Brifysgol Abertawe, gan ystyried ein haliniad o ran gweledigaeth ac uchelgais, a'i gyflawniadau rhagorol, yn y pwll a'r tu hwnt iddo, gan ddarparu platfform unigryw am lwyddiant ar y cyd.
"Edrychwn ymlaen at gryfhau ein cydweithio â Nofio Cymru ar draws ystod o chwaraeon perfformiad a chymunedol, a fydd yn creu budd sylweddol, nid i'r partneriaid yn unig, ond, yn hollbwysig, i’r gymuned ehangach hefyd.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol Nofio Cymru, Fergus Feeney: "Mae Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu cydnabyddedig ar gyfer Gweithgareddau Dyfrol, yn falch o fod yn bartner swyddogol gydag un o'r sefydliadau academaidd mwyaf blaenllaw a arweinir gan ymchwil yn y byd, Prifysgol Abertawe.
"Rydym wedi gweithio'n agos gyda Phrifysgol Abertawe am nifer o flynyddoedd o'n canolfan ym Mhwll Cenedlaethol Cymru sydd drws nesaf i Gampws Singleton, ond mae'r cytundeb newydd hwn yn nodi dechrau cyfnod newydd ar gyfer y ddau sefydliad.
"Mae enw da Abertawe fel prifysgol gydweithredol ac arloesol yn cyd-fynd yn berffaith â'r gwerthoedd a nodir yn ein strategaeth YMLAEN a lansiwyd yn ddiweddar. Mae'r ymchwil a wneir yn y brifysgol yn newid bywydau, ac rydym yn gyffrous am y cyfle i gydweithio er mwyn datblygu gweithgareddau dyfrol yng Nghymru".
Bydd twf a datblygiad wrth wraidd y bartneriaeth, a fydd yn rhoi cyfleoedd newydd i athletwyr, myfyrwyr a staff ddatblygu yn eu gyrfaoedd.
Yn ogystal â rhoi llwybrau gwell i gyrraedd nodau i bobl ar draws y gymuned, mae'r cytundeb hefyd yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu cyfleusterau ac isadeiledd cynaliadwy hefyd.