Yn ddiweddar, cynhaliodd y Ganolfan Eifftaidd ddigwyddiad arbennig i ddathlu 25 mlynedd ers i'w drysau agor am y tro cyntaf.
Ddydd Sadwrn 7 Hydref, croesawodd yr amgueddfa arobryn 158 o westeion, ar y safle a thrwy Zoom, i nodi'r garreg filltir anhygoel hon.
Gwnaeth y digwyddiad am ddim gynnwys cyfres o gyflwyniadau gafaelgar ar themâu sydd wrth wraidd y Ganolfan Eifftaidd: addysg, cydweithredu a gwirfoddoli.
Yn ystod y cyfnod cyn y digwyddiad, derbyniodd yr amgueddfa sawl neges fideo a oedd yn cynnwys llongyfarchiadau gan wirfoddolwyr a staff o'r gorffennol a'r presennol.
Cafodd y fideos eu dangos yn ystod y digwyddiad ac maent bellach ar gael i'w gwylio ar-lein. Maent yn tynnu sylw at effaith hirhoedlog yr amgueddfa ar y gymuned leol a'r tu hwnt.
Yn ei fideo, meddai Hannah Sweetapple, Swyddog Dysgu ac Ymgysylltu'r Ganolfan Eifftaidd o fis Ionawr 2019 i fis Gorffennaf 2023: “Mae'n anodd iawn esbonio effaith y Ganolfan Eifftaidd ar fy mywyd mewn 30 eiliad. Dechreuais i drwy wirfoddoli pan oeddwn i'n fyfyriwr israddedig. Gwnes i ddarganfod fy nghariad at ddysgu mewn amgueddfa yno, ac yn fy amser fel gwirfoddolwr ac aelod staff, ces i fy nghefnogi bob amser i dyfu a datblygu, a ches i bob cyfle i wneud hynny, a galla i ddweud yn onest fyddwn i ddim wedi bod yn fy sefyllfa bresennol heb y Ganolfan Eifftaidd.”
Yn gyffrous, yn y digwyddiad agorwyd yr arddangosfa dros dro gyntaf o'r casgliad o fwy na 700 o eitemau Eifftaidd sydd wedi’u benthyca i’r Ganolfan Eifftaidd gan Amgueddfeydd Harrogate, a arddangosir dros y tair blynedd nesaf.
Cafodd y cyfranogwyr gip unigryw ar arddangosfa Causing Their Names to Live, sy'n cynnwys 30 o wrthrychau anhygoel, gan gynnwys coflechau, cerfluniau, shabtis, conau angladdol, jar canopig a sgarabau, gan alluogi ymwelwyr i gysylltu â hanes cyfoethog yr Hen Aifft drwy bwysigrwydd cofio.
Meddai un gwestai: “Roedd hi'n ddiwrnod mor ddiddorol, gan glywed gan y staff a'r myfyrwyr a gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni a hanes lliwgar y casgliad o'r dechrau'n deg! Roedd yn hynod ddifyr gweld Casgliad Harrogate am y tro cyntaf a chwrdd â ffrindiau newydd. Diwrnod gwych. Diolch yn fawr iawn am y gwahoddiad. Rwyf mor ffodus bod yr amgueddfa werthfawr hon ar garreg y drws.”
Cafodd y cast plaster o Djedhor y Gwaredwr ei arddangos – y gred yw mai dyma'r tro cyntaf i eitemau o gasgliad Wellcome gael eu hailuno'n ddiriaethol. Cyn hynny, bu'r cerflun yn Amgueddfa Petrie yn Llundain a'r gwaelod yn Abertawe.
Meddai Ken Griffin, curadur y Ganolfan Eifftaidd, am y digwyddiad: “Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb a ddaeth i'r dathliadau hyn ddydd Sadwrn, boed yn gyflwynwyr, yn wirfoddolwyr i helpu i gynnal y digwyddiad yn hwylus neu'n gyfranogwyr a ddaeth i glywed am gyflawniadau rhyfeddol y Ganolfan Eifftaidd. Hir oes iddi!”
Cymerwch gip ar gasgliad Harrogate drwy gatalog ar-lein newydd y Ganolfan Eifftaidd, cydweithrediad ag Amgueddfeydd Harrogate (Cyngor Gogledd Swydd Efrog) ac Abaset Collection Ltd.
Ymunwch â'r dathliadau drwy wylio recordiadau o'r digwyddiad.