Cynhaliodd Prifysgol Abertawe ddigwyddiad yn ddiweddar a amlygodd sut mae'r Brifysgol yn mynd i'r afael â menopos, gan gynnwys cyhoeddiad arbennig am lansio ‘caffi menopos’ a chynlluniau i ddatblygu ei Chlinig Menopos ei hun.
Cynhaliwyd ‘Prifysgol Abertawe yn erbyn y Menopos’ yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin ar 20 Hydref, gan nodi dechrau Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe.
Cyflwynodd Kate Lewis o ITV Cymru'r noson, ac ymunodd amrywiaeth o siaradwyr proffil uchel â hi, gan gynnwys Carolyn Harris, Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, a Dr Louise Newson, meddyg teulu ac arbenigwr menopos.
Rhannodd Carolyn Harris AS, sy'n argymell cymorth ar gyfer menopos yn Senedd y DU, a Dr Newson, sylfaenydd Newson Health Menopause and Wellbeing Centre, eu safbwyntiau am sefyllfa bresennol menopos yn y DU a pham mae'n rhaid sicrhau bod rhagor o gymorth ar gael.
Meddai Dr Newson: “Roedd hi'n fraint go iawn cymryd rhan mewn digwyddiad mor wych. Unwaith eto, roedd hi'n drist clywed straeon gan fenywod sy'n ei chael hi'n anodd derbyn triniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn ystod perimenopos a menopos.”
Ychwanegodd Carolyn Harris AS: “Ar ôl wythnos o ddigwyddiadau i ddathlu Diwrnod Menopos y Byd, roedd yn bleser i mi orffen gyda digwyddiad yn fy ninas fy hun.
“Rydyn ni wedi gwneud llawer o gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf wrth chwalu'r rhwystrau sydd wedi cyd-fynd â menopos ers amser maith, ac roedd hi'n galonogol gwrando ar gynifer o bobl yn trafod ac yn rhannu eu profiadau eu hunain yn agored.”
Cafodd y rhai hynny a oedd yn bresennol y cyfle hefyd i glywed cyflwyniadau gan Dr Rachel Churm o'r adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Dr Aimee Grant o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a rannodd ganfyddiadau eu hymchwil i fenopos.
Daeth y noson i ben gyda chyhoeddiad arbennig am lansio ‘caffi menopos’ yn y dyfodol agos, yn ogystal â chynlluniau i ddatblygu Clinig Menopos newydd. Cynhelir y ddau ohonynt yn yr Academi Iechyd a Llesiant.
Meddai Niamh Lamond, Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe: “Yma ym Mhrifysgol Abertawe, mae iechyd a lles ein staff a'n myfyrwyr yn hollbwysig i ni, ac rydyn ni eisoes wedi rhoi amrywiaeth o wasanaethau cymorth ar waith i ymdrin â hyn, gan gynnwys polisi ar fenopos a hyfforddiant arbenigol i reolwyr llinell.
“Rydyn ni'n parhau i gymryd camau breision wrth gefnogi'r rhai hynny sy'n dioddef o symptomau menopos a rhoi platfform i bwnc sy'n cael ei ddiystyru'n aml.”