Mae dwy fyfyrwraig o Abertawe wedi gloywi eu sgiliau Almaeneg a meithrin dealltwriaeth fwy cyfoethog o'r Almaen – o'i marchnadoedd enwog i'w theisennau blasus – ar ymweliadau astudio â'r wlad, a ariannwyd gan ysgoloriaethau a ddyfarnwyd iddynt drwy gymorth yr adran Almaeneg.
Mae Caitlin Oldham a Julia Debska yn astudio am BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd mewn Almaeneg a Sbaeneg.
Mae'r ddwy ohonynt wedi dychwelyd yn ddiweddar o ymweliad astudio un mis o hyd â Phrifysgol Freiburg yn ne'r Almaen.
Fe'u hariannwyd gan Ysgoloriaeth Hilda Hunt, a sefydlwyd yn benodol ar gyfer myfyrwyr o Abertawe, gan eu galluogi i ddilyn cyrsiau iaith yn ystod yr haf mewn gwledydd lle siaredir Almaeneg. Gall myfyrwyr o Abertawe hefyd gyflwyno ceisiadau am ysgoloriaethau i'r DAAD, gwasanaeth cyfnewid academaidd yr Almaen.
Cynhaliwyd eu hymweliad ar ddiwedd eu blwyddyn astudio gyntaf yn Abertawe. Cawsant ragflas defnyddiol iawn ar fywyd yn yr Almaen cyn eu trydedd flwyddyn, pan fydd yr holl fyfyrwyr yn treulio blwyddyn yn y wlad.
Meddai Julia Debska:
“Mae Freiburg yn ddinas hardd yn ne'r Almaen, sy'n llawn myfyrwyr a digon o bethau i'w gwneud ar nosweithiau heulog. Yn bendant, fy hoff ran oedd cerdded o gwmpas y farchnad bob wythnos. Roedd cynifer o stondinau hardd, lle gallwch chi brynu currywurst traddodiadol neu dusw lliwgar o flodau.
Roedd y profiad yn amhrisiadwy i ni wrth i ni astudio Almaeneg. Mae fy hyder yn yr iaith wedi gwella'n fawr ar ôl cael y cyfle i siarad â'r brodorion bob dydd, boed hynny mewn caffi, bwyty neu yn y brifysgol.
Roedd presenoldeb y diwylliant a'r bobl yn gwneud y profiad dysgu'n llawer mwy pleserus. Cawson ni'r cyfle i gwrdd â llawer o bobl anhygoel ac ymweld â lleoedd fyddwn i ddim wedi gallu eu gweld fel arall, a chafodd fy mrwdfrydedd am ddysgu ieithoedd ei ailgynnau'n gyffredinol.”
Meddai Caitlin Oldham:
“Roedd hwn yn brofiad cyffrous ac yn ffordd wych o baratoi ar gyfer y flwyddyn dramor yn y drydedd flwyddyn.
Mae Freiburg yn ddinas hardd ger y Fforest Ddu, felly gwnaethon ni weld llawer o olygfeydd a heicio'n aml. Cawson ni gyfle i roi cynnig ar lawer o fwydydd newydd: fy hoff un oedd Stefans Käsekuchen – teisen gaws – ym marchnad Freiburg. Gwnaethon ni hefyd ymweld â dinasoedd cyfagos fel Konstanz a Strasbwrg.
Roedd Prifysgol Freiburg yn gyfeillgar iawn ac roedd hi'n ddiddorol dysgu Almaeneg ochr yn ochr â phobl o bedwar ban byd. Drwy fyw ac astudio yn yr Almaen am fis, rwyf wedi gwella fy nealltwriaeth o'r iaith yn ogystal â fy hyder.
Rwy'n ddiolchgar fy mod i wedi cael y cyfle hwn i weld sut mae Almaeneg yn cael ei defnyddio mewn bywyd pob dydd a rhoi'r hyn rwyf wedi ei ddysgu ar waith.”
Gellir astudio Almaeneg yn Abertawe o lefel dechreuwr ac o lefel uwch ar ddwy raglen BA anrhydedd sengl: BA Ieithoedd Modern a BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd.
Gellir cyfuno Almaeneg ag iaith arall neu feysydd pwnc eraill megis Llenyddiaeth Saesneg, Hanes a Chysylltiadau Rhyngwladol. O fis Medi 2024, gall myfyrwyr Rheoli Busnes hefyd astudio Almaeneg o lefel dechreuwr drwy'r llwybr ieithoedd newydd.
Mae gan yr is-adran Almaeneg yn Abertawe bartneriaethau â sawl prifysgol yn yr Almaen lle gall myfyrwyr dreulio eu blwyddyn dramor, yn Augsburg, Bamberg, Mannheim, Regensburg, a Würzburg.
Mae pwyslais mawr ar hybu rhagolygon gyrfa myfyrwyr hefyd. Er enghraifft, mae darlithwyr Almaeneg yn Abertawe'n trefnu ymweliadau â sioe deithiol o ran gyrfaoedd sy'n canolbwyntio ar swyddi i siaradwyr a dysgwyr Almaeneg, a gynhelir gan Lysgenhadaeth yr Almaen, y Goethe-Institut a'r DAAD.
Meddai Christiane Günther, uwch-ddarlithydd mewn Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, a wnaeth helpu Caitlin a Julia gyda'u ceisiadau:
“Rwyf wrth fy modd bod Caitlin a Julia wedi cael profiad mor bleserus a buddiol yn ninas hardd Freiburg.
Pan fyddwch chi'n astudio Almaeneg, does dim byd cystal â threulio amser yn yr Almaen, er mwyn gwella eich sgiliau iaith a'ch gwybodaeth am ei diwylliant a'i ffordd o fyw.
Dyna pam rydyn ni'n annog ein holl fyfyrwyr i achub ar bob cyfle – fel y mae Caitlin a Julia wedi ei wneud – i gyflwyno ceisiadau am ysgoloriaethau. Mae gennyn ni gynifer o bartneriaethau â phrifysgolion yn yr Almaen, lle gall myfyrwyr dreulio eu blwyddyn dramor fel rhan o'r radd.”