Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe wedi croesawu Glynne Jones CBE, Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i lansio ei rhaglen GO Wales newydd a chyflwyno myfyrwyr i Gyfeiriadur newydd y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru.
Ddydd Mawrth 7 Tachwedd yng nghanolfan Creu Taliesin, rhannodd Glynne ei lwybr gyrfaol trawiadol â chyfranogwyr, o gefndir prydau ysgol am ddim a dyheadau isel i dderbyn CBE gan y Dywysoges Frenhinol yng Nghastell Windsor.
Yn ogystal, amlygodd Glynne bwysigrwydd rhaglenni fel GO Wales, sy'n grymuso myfyrwyr i wireddu eu potensial llawn ni waeth am eu cefndir.
Meddai Glynne: “Yr unig beth byddwn i'n ei glywed pan oeddwn i'n tyfu i fyny oedd yr hyn doeddwn i ddim yn gallu ei wneud a'r hyn fyddwn i byth yn ei gyflawni. Mae'n anghywir barnu pobl fel hyn a gosod terfynau ar eu huchelgeisiau a'u disgwyliadau. Felly, mae'n bleser gen i gael y cyfle i ymuno ag Academi Cyflogadwyedd Abertawe i lansio rhaglen a luniwyd i annog myfyrwyr a'u helpu i oresgyn rhwystrau a allai fod wedi cael eu gosod yn eu llwybr.”
Nod rhaglen GO Wales, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), yw cynnig cymorth a chyfleoedd cyflogadwyedd i fyfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy'n teimlo efallai nad ydynt yn gallu cael mynediad at gyfleoedd, gan alluogi cyflogwyr i weithio gydag unigolion gweithgar a brwdfrydig.
Ers cael ei chyflwyno ym mis Chwefror 2023, mae'r rhaglen wedi trefnu lleoliadau gwaith niferus gyda sefydliadau, gan gynnwys Caredig, The Cusp, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gerddi Aberglasne, Rewise Learning, Canolfan Dylan Thomas, Amgueddfa Abertawe ac Afallen.
Mae hefyd wedi darparu bwrsariaethau gwerth mwy na £25,000 i fyfyrwyr er mwyn helpu i dalu am gostau teithio i gyfweliadau, prynu dillad proffesiynol a thalu am gyfleoedd datblygiad proffesiynol.
Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe: “Rydyn ni'n teimlo'n ffodus iawn bod Glynne Jones wedi ymuno â ni i lansio'n ffurfiol raglen GO Wales newydd Prifysgol Abertawe, y mae myfyrwyr yn ei galw'n Hwb Gyrfaoedd.
“Roedd hi'n wych gweld cynifer o’n myfyrwyr Hwb Gyrfaoedd yn bresennol ac yn cael cyfle i fireinio eu sgiliau rhwydweithio â myfyrwyr eraill, staff, cyn-fyfyrwyr a phartneriaid y Brifysgol.”
Ychwanegodd yr Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-ganghellor (Addysg), a gyflwynodd y digwyddiad: “Yn ystod y cyfnod byr y mae hi wedi bod ar waith, mae GO Wales eisoes wedi helpu nifer o'n myfyrwyr i reoli eu cynlluniau gyrfa am y dyfodol, ac roedd hi'n wych gweld cynifer o bobl yn bresennol yn y digwyddiad lansio swyddogol.
“Yn ogystal â bod yn gyfle gwych i amlygu sut gall myfyrwyr a chyflogwyr fanteisio i'r eithaf ar y rhaglen newydd, cawson ni'r anrhydedd o groesawu Glynne Jones, a gynigiodd ddealltwriaeth unigryw o'r Gwasanaeth Sifil.”
Yn ystod y digwyddiad, cyflwynodd Glynne y Cyfeiriadur A-Z o Adrannau’r Gwasanaeth Sifil yng Nghymru i fyfyrwyr, gan gynnig arweiniad ar yrfaoedd yn y sector ac esbonio prosesau recriwtio.
Meddai Glynne: “Y Cyfeiriadur A-Z yw'r un cyntaf o'i fath ac mae'n cynnig dealltwriaeth go iawn o faint o adrannau sy'n gweithredu yng Nghymru ac amrywiaeth y rolau sydd ar gael. Gall gweision sifil gael effaith go iawn ar fywydau pobl, o helpu unigolion i ddod o hyd i waith, i lunio polisïau i fynd i'r afael â materion o bwys megis newid yn yr hinsawdd a thlodi.”
Mae Glynne wedi bod yn Gyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers mis Ionawr 2013. Ar ôl ymuno â'r adran yn 2005, mae wedi dal amrywiaeth o uwch-swyddi, gan gynnwys Prif Ysgrifennydd Preifat, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Chyfansoddiad, a Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi. Mae wedi helpu i gyflawni rhai o'r cerrig milltir allweddol o ran datganoli yng Nghymru, gan gynnwys tair Deddf Cymru a sefydlu Comisiwn Silk.
Rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan ym mhrosiect GO Wales.