Am y nawfed tro yn olynol, mae Prifysgol Abertawe ymhlith prifysgolion gorau'r DU ar gyfer materion amgylcheddol a moesegol, yn ôl y tabl cynghrair newydd wedi'i lunio gan People & Planet a'i gyhoeddi gan The Guardian.
Mae Abertawe wedi cael ei dyfarnu unwaith eto yn sefydliad 'o'r radd flaenaf', gan ennill yr 8fed safle ymhlith 151 o brifysgolion y DU a aseswyd.
Gan symud i fyny bum lle ers y llynedd, dyma safle uchaf erioed y Brifysgol yng Nghynghrair Prifysgolion People & Planet, yr unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y DU wedi'u graddio yn ôl perfformiad amgylcheddol a moesegol.
Mae Tabl Cynghrair y Prifysgolion yn cael ei lunio'n flynyddol gan rwydwaith ymgyrchu myfyrwyr mwyaf y DU, People & Planet, gan hyrwyddo gwelliannau mawr mewn rheoli a monitro amgylcheddol ers ei gyflwyno yn 2007.
Mae People & Planet yn asesu prifysgolion yn erbyn 14 maes allweddol, o ffynonellau ynni a lleihau dŵr i fwyd cynaliadwy a buddsoddiadau prifysgolion.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: “Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch bod ein hymrwymiad i gynaliadwyedd yn adlewyrchu ein cyfrifoldeb am ddyfodol y blaned a'r rhai hynny a fydd yn byw arni yn y blynyddoedd i ddod, yn ogystal â dyfodol ein sefydliad. Felly, rydym wrth ein boddau bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion People & Planet, drwy gadw ein statws o'r radd flaenaf a'n safle ymysg y deg uchaf.
"Dyma ein perfformiad gorau hyd yma ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb ymdrechion a brwdfrydedd anhygoel ein staff a'n myfyrwyr."
Meddai Teifion Maddocks, Rheolwr Cynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi symud i fyny bum lle i'r 8fed safle uchaf, ein safle uchaf hyd yn hyn. Mae hyn yn fwy nodedig fyth pan fyddwch yn ystyried mai Prifysgol Abertawe yw un o'r unig brifysgolion a arweinir gan ymchwil ymysg y 10 uchaf, gan ddangos yn gyson effaith ar ddatblygu cynaliadwy yn ein haddysgu a'n hymchwil, ochr yn ochr â lleihau ein hôl troed carbon ac adfer byd natur ar y campws ac mewn cymunedau ehangach.
"Yn arolwg cenedlaethol SOS 2022/23 ynghylch sgiliau cynaliadwyedd, cytunodd 89% o fyfyrwyr y dylai'r sefydliad lle maent yn astudio fynd ati i ymgorffori a hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Mae ein safle yn Nhabl Cynghrair y Prifysgolion yn profi bod Abertawe yn flaengar o ran datblygu cynaliadwy ac mae'n dyst i'r diben cyfunol a'r camau gweithredu y mae ein myfyrwyr, ein staff a'n cymuned yn parhau i'w dangos i bobl a'r blaned."
Meddai Jean-Louis Button, Llywydd Cymdeithas Coed Prifysgol Abertawe: “Bu'n bleser pur gweithio ochr yn ochr â People & Planet a'r Tîm Cynaliadwyedd i helpu i gyflawni ein nodau gwyrdd ar y cyd. Rwy'n credu bod gan Brifysgol Abertawe agwedd gadarnhaol i’w chroesawu at fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a sicrhau bob amser ein bod ni'n ymdrechu i arwain y ffordd.
“Bydd y Gymdeithas Coed yn parhau â'i pherthynas agos â'r Brifysgol er mwyn sicrhau bod y myfyriwr a'r gymuned leol bob amser yn cyfrannu at helpu i wneud y byd yn lle gwell, ar hyn o bryd ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Rhagor o wybodaeth am Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Abertawe.
Darllenwch sut mae ein hymchwil yn helpu i warchod a diogelu'r byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.