Bydd arbenigedd Abertawe mewn ailgylchu'n well drwy atgyfnerthu ansawdd metel sgrap wrth wraidd canolfan newydd, a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig, a fydd yn ymchwilio i sut gallwn ailddefnyddio adnoddau amhrisiadwy – o fetelau i fwynau – yn ehangach.
Mae gwella ansawdd metel sgrap yn hanfodol wrth dorri'r allyriadau carbon a gynhyrchir wrth fwyngloddio a gweithgynhyrchu metelau o'r newydd.
Er enghraifft, yn y diwydiant dur, gellir creu cynhyrchion newydd drwy doddi metel sgrap, gan ddefnyddio ffwrneisi arc trydan sydd yn yr arfaeth yn y gweithfeydd dur ym Mhort Talbot a Scunthorpe. Mae hyn yn cynhyrchu llai o allyriadau carbon na gwneud dur o fwyn haearn mewn ffwrneisi chwyth, ond mae angen rheoli'r mewnbynnau sgrap yn fwy gofalus.
Felly, mae ailgylchu metel sgrap yn enghraifft berffaith o'r economi gylchol, lle caiff adnoddau eu hailddefnyddio a'u hailgylchu'n barhaus.
Y ganolfan newydd fydd canolfan ragoriaeth ryngwladol gyntaf y byd ar gyfer rheoli adnoddau'n gynaliadwy yn yr economi gylchol. Gan gydnabod arbenigedd academaidd o'r radd flaenaf ac ymchwil wyddonol arloesol Prydain, mae aelod-wladwriaethau Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig (UNECE) wedi cytuno i sefydlu'r ganolfan yn y DU.
I ddechrau, bydd y ganolfan yn manteisio ar arbenigedd pum sefydliad academaidd – gan gynnwys Prifysgol Abertawe – i archwilio sut i hybu'r economi gylchol mewn meysydd megis metelau, adeiladu a mwynau hanfodol.
Prif bwyslais arbenigwyr o Abertawe fydd gwella ansawdd metel sgrap drwy dechnolegau didoli ac olrhain deunydd o'r radd flaenaf ar draws y gadwyn gyflenwi, boed hynny o adeiladau a phontydd neu duniau bwyd ac oergelloedd.
Mae ansawdd yn hollbwysig oherwydd yn niwydiant dur technoleg uchel heddiw, sy'n cynhyrchu miloedd o raddau gwahanol o ddur, rhaid i sgrap feddu ar y cyfansoddiad cemegol cywir ac – yn hanfodol – ni ddylid ei halogi â deunydd arall sy'n diraddio ansawdd cynnyrch.
Bydd gwaith yr arbenigwyr o Abertawe i'r ganolfan newydd yn cynnwys:
- Casglu gwybodaeth i helpu i raddio ansawdd metel sgrap, y gellir ei defnyddio o bosib wrth bennu safonau ar gyfer y diwydiant yn fyd-eang;
- Asesu buddion amgylcheddol gwella ansawdd metel sgrap;
- Archwilio sut gallai diwydiant dur y DU ddefnyddio mwy o'r sgrap a gynhyrchir yn y DU, y caiff llawer ohono ei allforio ar hyn o bryd
Gan agor yn ffurfiol ym mis Ebrill 2024, bydd y ganolfan yn cynnwys pum sefydliad: Coleg Prifysgol Llundain (UCL), Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Brunel, Prifysgol Abertawe ac Arolwg Daearegol Prydain.
Meddai'r Athro Cameron Pleydell-Pearce, cyfarwyddwr SUSTAIN, hyb ymchwil Prifysgol Abertawe ar gyfer diwydiant dur gwyrddach:
“Mae gwella ansawdd metel sgrap yn y DU yn hollbwysig wrth newid tuag at economi wyrddach. Ond allwn ni ddim gwneud hyn heb ganolbwyntio ar wella ansawdd, ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan.
“Mae dur yn hanfodol ar gyfer dyfodol gwyrddach a glanach, o reilffyrdd tra chyflym a cheir trydan i dechnoleg solar a thyrbinau gwynt. Os byddwn ni'n gofalu amdano'n ofalus, gellir hefyd ei ailgylchu droeon a thro heb aberthu ansawdd cynnyrch.
“Bydd defnyddio ein harbenigedd mewn prosesu, olrhain a defnyddio metel sgrap i gyfrannu at waith y ganolfan newydd yn gam pwysig tuag at economi gwyrddach a mwy cylchol.”
Meddai Robbie Moore, Gweinidog Adnoddau yn Llywodraeth y DU:
“Dyma gydnabyddiaeth go iawn bod y DU ar flaen y gad yn rhyngwladol wrth reoli adnoddau'n gynaliadwy ac mae’n dangos arbenigedd academaidd Prydain sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang.
“Rydyn ni wrth ein boddau i gynnal y ganolfan hon, gan alluogi ein hacademyddion arloesol i ddatblygu'r adnoddau a’r ymchwil a fydd yn helpu gwledydd ledled y byd i achub ar gyfleoedd yn yr economi gylchol, gan arwain y ffordd wrth drosglwyddo i ddyfodol gwyrddach.”
Meddai Tatiana Molcean, Ysgrifennydd Gweithredol UNECE:
“Mae defnyddio ein hadnoddau mewn modd mwy cynaliadwy a symud tuag at economi gylchol yn hanfodol i ddatblygu cynaliadwy a gweithredu ar yr hinsawdd. Mae partneriaethau sy'n manteisio ar arbenigedd rhyngwladol yn gwneud cyfraniad pwysig at gydweithrediad y Cenhedloedd Unedig i ddatblygu a rhannu arferion gorau. Rwy'n croesawu'r Ganolfan Ragoriaeth newydd, wrth iddi ganolbwyntio ar drin metelau, adeiladu a deunyddiau crai hanfodol mewn modd cylchol.”
Meddai Julie James, Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru:
"Rwy'n falch o weld bod Prifysgol Abertawe yn rhan allweddol o'r ganolfan ryngwladol newydd o fri hon - gan adlewyrchu arbenigedd y Brifysgol a'r uchelgais sydd gennym i Gymru fod yn arweinydd byd-eang o ran yr economi gylchol.
"Mae croeso arbennig i'w ffocws ar arloesi i sicrhau bod metel fferrus sgrap o ansawdd uchel ar gael i helpu i wyrddio'r diwydiant dur yn fyd-eang. Mae ein Strategaeth Ryngwladol yn canolbwyntio ar gefnogi economi gylchol fyd-eang lle gallwn rannu ein hymrwymiad i ailgylchu a'n profiad gyda chenhedloedd eraill."
Arloesedd Dur - ymchwil Prifysgol Abertawe