Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio ysgoloriaethau mewn amrywiaeth eang o bynciau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig tramor ar lefel PhD dramor sy'n cyflwyno ceisiadau i ddechrau astudio ym mis Medi 2024 ac sy'n gallu dangos cyflawniad academaidd rhagorol.
Bydd yr ysgoloriaethau'n golygu bod rhaid i ddeiliaid dalu'r ffïoedd cartref yn unig felly byddant yn talu'r un gyfradd â myfyrwyr y DU ar gyfer hyd eu rhaglen astudio.
Bydd hyd at 70 o'r ysgoloriaethau hyn ar gael bob blwyddyn. Fe'u hadwaenir fel Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Ôl-raddedig Rhyngwladol Prifysgol Abertawe (SUIPRES).
Mae ysgoloriaethau SUIPRES ar agor i ymgeiswyr tramor ar gyfer rhaglenni PhD a Doethuriaeth Broffesiynol a fyddai fel arfer yn talu cyfradd ryngwladol y ffïoedd dysgu. Dyfernir yr ysgoloriaethau ar sail teilyngdod i ymgeiswyr sy'n gallu dangos cyflawniad academaidd rhagorol.
I ddangos rhagoriaeth, byddai'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu manylion am eu hanes academaidd ynghyd â gweithgareddau eraill a allai fod yn berthnasol, megis dyfarniadau a dderbyniwyd, gweithgareddau allgymorth neu brofiad o addysgu.
Mae ysgoloriaethau ar gael ar gyfer y rhaglenni canlynol:
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (FHSS):
- Yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol: Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, Astudiaethau Datblygu/Datblygu Rhyngwladol, Athroniaeth
- Cymdeithaseg a Throseddeg
- Y Cyfryngau Cymdeithasol/y Dyniaethau Digidol
- Y Clasuron, Hanes yr Hen-fyd ac Eifftoleg
- Ieithyddiaeth Gymhwysol
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg (FSE): yr holl raglenni PhD/Doethuriaeth Broffesiynol
Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd(FMHLS): rhaglenni penodol i'w cadarnhau.
Bydd ymgeiswyr y dyfernir ysgoloriaethau SUIPRES iddynt yn gorfod talu ffïoedd ar gyfradd y DU bob blwyddyn, yn hytrach na'r gyfradd ryngwladol. Mae rhagor o wybodaeth am ffïoedd dysgu ar gael o dan y manylion am y cwrs ar y tudalennau hyn.
Pwy sy'n gymwys:
Mae'r ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr tramor sy'n bodloni'r canlynol:
- dechrau rhaglen PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol ym mis Medi 2024
- byddent fel arfer yn talu cyfradd ryngwladol y ffïoedd dysgu
- gallant ddangos cyflawniad academaidd rhagorol.
Nid yw'r cynllun ar gael i fyfyrwyr PhD/Doethuriaeth Broffesiynol presennol neu ymgeiswyr sy'n cael eu noddi'n llawn gan drydydd parti. Nid yw ar agor i gyrsiau lefel gradd Meistr.
Sut i wneud cais
Nid oes gweithdrefn ar wahân ar gyfer cyflwyno cais am ysgoloriaeth SUIPRES. Dylai'r rhai hynny sydd am gael eu hystyried am y cynllun hwn nodi hynny yn ystod y broses arferol o gyflwyno cais am eu cyrsiau.
Yna rhoddir gwybod i ymgeiswyr yn eu llythyr cynnig a fyddent yn gymwys i gael ysgoloriaeth SUIPRES neu beidio.
Rhaid i ymgeiswyr gadarnhau bod ganddynt ddigon o arian i dalu'r ffïoedd sy'n weddill ar gyfer hyd cyfan y rhaglen yn ogystal â'u costau byw.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch y gyfadran berthnasol ar gyfer y cwrs rydych yn cyflwyno cais amdano:
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol:
Ar gyfer rhaglenni yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu: pgr-cultureandcom@abertawe.ac.uk
Ar gyfer rhaglenni yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: pgr-socialsciences@abertawe.ac.uk
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg:
scholarship-scienceengineering@abertawe.ac.uk;
Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
pgr-medicinehealthlifescience@abertawe.ac.uk;
Meddai'r Athro Gert Aarts, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig,
“Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wrth wraidd diwylliant ymchwil ac amgylchedd Prifysgol Abertawe, beth bynnag yw eu gwlad frodorol. Gan ystyried ei chymuned ryngwladol fawr o fyfyrwyr a staff, gall ymchwilwyr doethurol sy'n dod i Brifysgol Abertawe ddisgwyl cymorth rhagorol ar gyfer eu prosiectau ymchwil a'u hyfforddiant, ynghyd â'r cyfle i fwynhau ein hawyrgylch croesawgar a'n lleoliad delfrydol rhwng y mynyddoedd a'r môr.
Mae'r cynllun yn dangos ein hymroddiad i gefnogi myfyrwyr ymchwil rhyngwladol rhagorol, gan gynnal ein traddodiad o fod yn sefydliad agored a byd-eang ar gyfer cynnal ymchwil.
Rydym yn annog pawb sy'n gymwys ac sy'n bwriadu cyflwyno cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe i nodi eu bod am gael eu hystyried ar gyfer un o'r ysgoloriaethau hyn."