Mae Prifysgol Abertawe wedi gwneud cyfraniad allweddol at helpu Abertawe i gyflwyno ‘coed hylifol’ i bob ysgol gynradd – y ddinas gyntaf yn y DU i wneud hynny – gan addysgu disgyblion ynghylch newid yn yr hinsawdd a chreu amgylchedd dysgu iachach.
Yn y digwyddiad diweddar Ysgolion Abertawe ac Addysg ar yr Hinsawdd, cyhoeddwyd y bydd pob ysgol gynradd yn Abertawe'n cael mynediad at adnoddau addysg arloesol Our Classroom Climate.
Wedi'i hariannu a'i chefnogi gan Swansea Building Society fel rhan o'i hymrwymiad i werth cymdeithasol ac addysg ar newid yn yr hinsawdd, nod menter Our Classroom Climate yw helpu myfyrwyr i ddeall gwyddoniaeth newid yn yr hinsawdd wrth gyflwyno gwyddoniaeth arloesol yn uniongyrchol i'r ystafell ddosbarth, gan gynnwys bioadweithyddion algaidd, a elwir hefyd yn goed hylifol.
Wrth gefnogi'r rhaglen, mae Canolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy Prifysgol Abertawe wedi cyflenwi 10 litr o feithriniad Spirulina hadog – algâu sy'n gallu ffotosyntheseiddio carbon i ocsigen cymaint â 400 o weithiau'n gyflymach na choed.
Yn ogystal â dal carbon o'r aer, bydd disgyblion hefyd yn gallu cynnal arbrofion arno, ei gynaeafu, ei fesur, ei ddefnyddio, ei drawsnewid a'i atafaelu.
Meddai Dr Alla Silkina, o Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe: “Ar ôl clywed am y cwricwlwm arloesol hwn, roeddwn i'n awyddus i gynnig fy arbenigedd a'm cymorth. Mae'n hyfryd gweld cyfraniad Prifysgol Abertawe at feithrin dealltwriaeth o'r hinsawdd mewn ysgolion ledled y rhanbarth, gan helpu i roi'r fenter ‘coed hylifol’ ar waith, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu disgyblion i'r Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy i ddysgu mwy.
“Mae'r pecynnau cychwynnol hyn yn adnodd addysgol gwych, yn ogystal â bod yn ateb ymarferol o ran dal CO2 a gwella ansawdd aer dan do, gan gyd-fynd â'r nod trosfwaol o gyflawni sero net.”
Drwy'r rhaglen, mae Mark Douglas, sefydlydd Our Classroom Climate, hefyd wedi cydweithio ag Academi Cyflogadwyedd Abertawe i gynnig lleoliadau gwaith i'w myfyrwyr.
Meddai Lucy Griffiths, Pennaeth yr Academi: “Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe wedi bod yn ffodus i gydweithio â Mark ar nifer o brosiectau cyflogadwyedd dros y blynyddoedd. Mae ei fenter ddiweddaraf, Our Classroom Climate, yn ategu Polisi Gyrfaoedd Moesegol yr Academi a'n nod o feithrin dealltwriaeth myfyrwyr o gynaliadwyedd, yn ogystal â magu’r profiad i’w galluogi i sicrhau rolau i raddedigion yn y sector gwyrdd y mae galw mawr amdanyn nhw.
“Mae'n destun cyffro i ni weld ein myfyrwyr yn magu profiad gwaith drwy interniaethau gydag Our Classroom Climate, gan gynnwys addysgu plant ysgolion cynradd am ddal carbon drwy goed hylifol anhygoel y fenter!”