Ar ôl chwe blynedd lwyddiannus, mae cynllun llogi beiciau poblogaidd Abertawe yn cael enw newydd ac uwchraddiad mawr i wella ei wasanaeth i ddefnyddwyr ledled y ddinas.
Bydd Beiciau Prifysgol Abertawe yn lansio ddydd Llun 12 Awst. Gan weithio ar y cyd â nextbike UK, a chyda chymorth amhrisiadwy gan Gyngor Abertawe, mae'r Brifysgol yn cefnogi ail-lansio'r cynllun llogi beiciau hynod boblogaidd, sydd wedi hwyluso mwy na 150,000 o deithiau llesol a chynaliadwy ers ei lansio yn ôl yn 2018.
Bydd y fflyd ddiweddaraf o feiciau, sydd wedi bod yn boblogaidd gyda myfyrwyr, y gymuned a thwristiaid fel ei gilydd, yn uwchraddiad ar y model blaenorol, gyda systemau cloi ac olrhain GPS newydd a gwell, ac mae'r gorsafoedd docio hefyd yn cael eu gweddnewid drwy gyflwyno system gloi newydd i wneud y broses llogi a dychwelyd yn haws byth.
Bydd y beiciau diweddaraf yn rhoi bywyd newydd i'r cynllun, gan sicrhau lefelau cynyddol o ddefnydd a phroffidioldeb parhaus. Bydd hybiau yn yr un lleoliadau ag o’r blaen:
- Campws Singleton
- Campws y Bae
- Maes Parcio a Theithio Ffordd Fabian
- Knab Rock, Y Mwmbwls
- Ystumllwynarth, Y Mwmbwls.
Bydd yr hybiau a leolwyd gynt ger Canolfan Ddinesig Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe yn cael eu disodli â dau safle cyfleus newydd i'w cyhoeddi'n fuan.
Er mwyn paratoi ar gyfer y lansiad, mae nifer y beiciau sydd ar gael yn cael eu leihau'n raddol tan ddiwedd y mis pan fydd cyfnod segur wrth i'r beiciau a'r gorsafoedd docio newydd gael eu gosod.
O 12 Awst, gellir llogi beiciau fel o'r blaen drwy ddefnyddio ap Next Bike.
Bydd BikeAbility Wales, yr elusen sy'n darparu hyfforddiant beicio lleol a gwasanaeth llogi beiciau hygyrch ac arbenigol, yn parhau i gefnogi gwaith cynnal a chadw cyffredinol beiciau a gorsafoedd docio’r cynllun.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Paul Boyle: "Mae cynllun Beiciau Prifysgol Abertawe wedi'i uwchraddio yn adlewyrchu ymrwymiad ein Prifysgol a'n rhanbarth i atebion teithio cynaliadwy a llesol. Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein partneriaid i gyflawni'r fenter leol bwysig hon.
"Fel defnyddiwr rheolaidd y cynllun blaenorol, rwy'n hyderus y bydd yn parhau i gynnig ffordd gynaliadwy ac iach i'n myfyrwyr, ein staff ac aelodau o'r gymuned archwilio ein dinas hardd, ein rhanbarth a’r tu hwnt."
Ychwanegodd Swyddog Teithio Cynaliadwy'r Brifysgol, Jayne Cornelius: "Ar ôl chwe blynedd wych o Feiciau Santander a beiciau’n cael eu rhentu mwy na 150,000 o weithiau, rwy'n falch iawn ein bod yn parhau i gynnig cynllun llogi beiciau i'n staff, ein myfyrwyr a'r gymuned leol o dan faner newydd Beiciau Prifysgol Abertawe. Rwy'n falch iawn o gael cefnogaeth barhaus ein partneriaid i ddarparu teithio llesol fforddiadwy yma yn Abertawe."