Unwaith eto mae Prifysgol Abertawe wedi'i henwi'n Brifysgol Orau Cymru, yn ôl The Guardian University Guide 2025.
Allan o 122 o sefydliadau yn y canllaw, cyrhaeddodd Abertawe safle 29 yn y DU yn gyffredinol.
Gwnaeth Prifysgol Abertawe hefyd ragori mewn safleoedd pwnc unigol, gan sicrhau safleoedd ymhlith y 10 gorau mewn naw maes:
- Proffesiynau Iechyd - 1
- Gwyddor Barafeddygol - 1
- Gwyddor Chwaraeon - 5
- Bydwreigiaeth - 5
- Ieithoedd ac Ieithyddiaeth - 5
- Peirianneg Fecanyddol - 7
- Mathemateg - 7
- Nyrsio Plant - 8
- Anatomeg a Ffisioleg - 9
At hynny, roedd wyth pwnc arall ymhlith yr 20 gorau, ac 13 pwnc arall ymhlith y 30 gorau.
Mae'r Guardian University Guide yn helpu darpar fyfyrwyr a'u teuluoedd i ddewis ble i astudio, gan werthuso ffactorau megis ansawdd addysgu, boddhad myfyrwyr, maint dosbarthiadau a chanran y graddedigion sy'n cael swyddi lefel raddedig neu sy'n ymgymryd ag addysg bellach o fewn 15 mis o orffen eu gradd.
Dywedodd yr Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor ar gyfer Ymgysylltu Rhyngwladol: "Rydym yn falch iawn o gael ein henwi’n Brifysgol Orau Cymru a bod ymhlith y 30 o brifysgolion gorau yn y DU yn ôl The Guardian University Guide 2025. Mae'r safle hwn yn adlewyrchu angerdd, ymroddiad a doniau ein staff a'n myfyrwyr sy'n gweithio'n ddiflino i greu amgylchedd academaidd llawn ysbrydoliaeth.
"Yr hyn sy'n gwneud y cyflawniad hwn hyd yn oed yn fwy arwyddocaol yw ein cryfder ar draws ystod o ddisgyblaethau, gan arddangos ein gallu i ddarparu rhagoriaeth mewn addysgu ac ymchwil. Yn Abertawe, rydym yn ymrwymedig i wella profiad y myfyrwyr yn barhaus a sicrhau bod gan ein graddedigion y sgiliau i lwyddo mewn byd sy'n newid drwy'r amser."
Yn gynharach eleni, cafodd Prifysgol Abertawe ei safle uchaf erioed yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS 2025, gan ddringo i safle 298 yn fyd-eang a chael ei henwi ymhlith y 300 gorau am y tro cyntaf erioed. Roedd Abertawe hefyd ymhlith y 100 o brifysgolion gorau yn Ewrop yn y safleoedd diweddaraf yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS: Ewrop 2025.