Mae Prifysgol Abertawe wedi dathlu lansio presenoldeb ym Malaysia gyda derbyniad a gynhaliwyd yn Kuala Lumpur.
Bydd presenoldeb y Brifysgol yn y brifddinas yn cynrychioli Abertawe ar draws rhanbarth de-ddwyrain Asia, gan ysgogi cydweithio â phartneriaid addysg ac ymchwil ar draws y rhanbarth.
Cynorthwywyd i drefnu'r digwyddiad gan un o gyn-fyfyrwyr Abertawe, Ravindran Navaratnam, gan ddod â chyn-fyfyrwyr, partneriaid a gwesteion o fri ynghyd gan gynnwys y Dirprwy Uchel Gomisiynydd Gweithredol Tom Shepherd a Datin Noorazah Omar, Is-ysgrifennydd Cysylltiadau Rhyngwladol Gweinyddiaeth Addysg Uwch Malaysia.
Roedd y derbyniad hefyd yn dathlu'r cysylltiad hirsefydlog rhwng Malaysia a'r Brifysgol. Ers i'r myfyriwr cyntaf o Falaysia raddio o Abertawe ym 1955, mae'r rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr yno wedi tyfu i bron 1,500 gyda chyn-fyfyrwyr llwyddiannus yn gwneud cyfraniad sylweddol at gymdeithas mewn amrywiaeth eang o feysydd.
Meddai'r Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu Rhyngwladol, a groesawodd westeion i’r derbyniad: "Rydym wrth ein boddau bod gennym bellach aelod o staff dynodedig yma ym Malaysia'n cynrychioli'r Brifysgol.
"Dyma ddatblygiad cyffrous a fydd yn ein galluogi i gydweithio a gweithio gyda phartneriaid tuag at iechyd a ffyniant byd-eang drwy addysg ac ymchwil ar draws Malaysia a rhanbarth ehangach de-ddwyrain Asia. Edrychwn ymlaen at weld hyn yn datblygu ac yn cryfhau ein cysylltiadau yma."
Mae’r bartneriaeth wedi elwa’n sylweddol o gefnogaeth Cymrawd Er Anrhydedd Abertawe Dr Ravindran Navaratnam, a gysylltodd Brifysgol Abertawe â lleoliad y digwyddiad yng Nghlwb Petrolewm Malaysia, yn Twin Towers Petronas.
Meddai: "Rwyf wrth fy modd bod fy hen brifysgol yn ehangu ei phresenoldeb yma ac edrychaf ymlaen at weld buddion mwy o gydweithio â sefydliadau yma ym Malaysia."
Mwy o wybodaeth am ein partneriaethau rhyngwladol