Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei hanrhydeddu ar ôl i filoedd o ddefnyddwyr parciau ledled y DU bleidleisio dros eu hoff fannau gwyrdd.
Mae Keep Britain Tidy wedi enwi Campws Singleton y Brifysgol fel un o enillwyr gwobrau Dewis y Bobl yn dilyn pleidlais genedlaethol.
Daw'r gydnabyddiaeth arbennig ar ôl i'r safle ennill y Faner Werdd, sy'n cydnabod ac yn achredu mannau gwyrdd o safon a reolir yn dda, yn gynharach eleni
Mae staff y tiroedd yn cynnal y gerddi a'r ardaloedd a rennir er budd staff, myfyrwyr a'r gymuned ehangach ar Gampws Singleton a Champws y Bae. Maent hefyd wedi gwneud gwaith cadwraeth helaeth gan gynnwys diweddaru gwestai chwilod a blychau adar, cael ardaloedd pwrpasol i dyfu llysiau a phlannu blodau gwyllt a choed ffrwythau yn ogystal â rhannu arbenigedd â phlant ysgolion lleol.
Meddai Michelle Dene, Pennaeth Gweithrediadau'r Campws: "Rydym wrth ein boddau bod ein Campws Parc Singleton wedi cael ei ddewis yn un o ddeg parc Baner Werdd gorau'r DU. Mae hyn yn dyst i ymroddiad ein timau Tiroedd, Cynaliadwyedd a Gweithredol a'n gwirfoddolwyr sy'n gweithio'n ddiflino, boed law neu hindda, i gynnal a gwella'r gofod awyr agored hardd hwn i bawb ei fwynhau.
"Mae mannau fel y rhain yn hanfodol i'n myfyrwyr, ein staff a'n cymunedau, ac rydym yn falch o weld bod ein hymdrechion wedi cael eu gwerthfawrogi gan gynifer o bobl."
Mae'r 10 enillydd Dewis y Bobl ymhlith 2,250 o barciau a mannau gwyrdd a enillodd Wobr y Faner Werdd eleni - y nifer uchaf erioed.
Meddai Paul Todd MBE, rheolwr Gwobr y Faner Werdd: "Gwobrau Dewis y Bobl yw ein ffordd o helpu'r cyhoedd i gydnabod y gwaith caled a wneir gan y miloedd o staff a gwirfoddolwyr mewn parciau ar hyd a lled y wlad.
"Mae Prifysgol Abertawe a'r naw safle buddugol arall yn cynrychioli rhai o'r unigolion a'r grwpiau mwyaf ymroddedig yn y DU sy'n gweithio yn ein parciau o'r safon uchaf – ac mae'n amlwg bod y cyhoedd wedi cydnabod a gwerthfawrogi hyn."
Mae parciau'n darparu manteision hanfodol i bobl a'u hanifeiliaid anwes, gan gynnwys mannau diogel i ymarfer corff, chwarae ac ymlacio. Maent hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu cynefin ar gyfer bywyd gwyllt a gwydnwch o ran newid yn yr hinsawdd.
Rhagor o wybodaeth am y gwobrau a'r enillwyr
Rhagor o fanylion am leoedd gwyrdd arobryn y Brifysgol