Menyw yn dal tlws

Mae Joanne Davies, o Brifysgol Abertawe, wedi'i chydnabod am ei chyflawniad neilltuol ym maes hyfforddiant meddygol yng Ngwobrau mawreddog Dewi Sant eleni.

Enillodd hi'r wobr arloesi, gwyddoniaeth a thechnoleg am ei gyrfa genedlaethol a rhyngwladol mewn addysg, ymchwil ac arloesi ym maes gofal iechyd.

Gwnaeth yr Athro Davies, cyfarwyddwr sefydlu Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe (SUSIM), gyflwyno ei hanrhydedd i'r addysgwyr clinigol a'r technolegwyr efelychu sy'n gweithio'n ddiflino bob dydd i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Meddai: "Roedd yn anrhydedd fawr i ennill y wobr mewn digwyddiad mor arbennig, ond mewn gwirionedd, mae pawb a gafodd eu henwebu yn enillwyr, oherwydd eu gwaith a'u hymrwymiad anhygoel. Rydw i'n teimlo'n ffodus iawn fy mod yn gwneud gwaith sydd mor bwysig i mi. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn cryfhau fy ymrwymiad i wella cenhadaeth SUSIM o ran addysg feddygol ac ansawdd a diogelwch cleifion yng Nghymru a'r tu hwnt."

Dan ei harweiniad, crëwyd SUSIM er mwyn darparu cyfleusterau hyfforddi arloesol. Agorodd y Ganolfan ei drysau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol a gweithwyr y dyfodol yn 2023, ac mae'n gartref i'r dechnoleg wal ymdrochol fwyaf yn y byd ar draws ei dau safle. Mae'r cyfleusterau unigryw hyn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu ac ymarfer sgiliau a gwaith tîm mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd bywyd go iawn wedi'u hefelychu. 

Anrhydeddwyd yr Athro Davies am arddangos ei chyfuniad unigryw o dosturi ac arbenigedd arloesol ynghyd â'r gwaith y mae hi wedi'i wneud i drawsnewid y dirwedd hyfforddiant.

Diolch i'w harweinyddiaeth, mae Cymru - a Phrifysgol Abertawe yn benodol - nawr ar flaen y gad o ran hyfforddiant gofal iechyd ac mae ei dylanwad yn ymestyn yn fyd-eang ar ôl arwain rhaglenni arloesol ledled y byd.

Mae Gwobrau Dewi Sant, a ddechreuwyd yn 2014, yn wobrau cenedlaethol sy'n cydnabod cyflawniadau rhagorol dinasyddion Cymru. Roedd y difyrrwr, Max Boyce, a Jess Fishlock, y pêl-droediwr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau i Gymru, ymhlith y rhai a gydnabuwyd eleni. 

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: "Mae wedi bod yn fraint i anrhydeddu enillwyr eleni, sy'n fy ngwneud hyd yn oed yn fwy balch o fod yn Gymraes. Maen nhw'n ysbrydoliaeth i ni gyd."

 

Rhannu'r stori