Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod gan Unifresher fel Prifysgol orau'r DU am ragoriaeth mewn pynciau – gan gyflawni mwy o safleoedd cyntaf nag unrhyw sefydliad arall yn y DU.
Mae Unifresher 2027, sy’n cyhoeddi tablau cynghrair amgen ac annibynnol o brifysgolion, yn canolbwyntio ar brofiad a chanlyniadau myfyrwyr, gan fesur y meysydd sydd fwyaf cysylltiedig â phrofiad myfyrwyr o fywyd o ddydd i ddydd yn y brifysgol a chanlyniadau graddedigion.
Yn ôl Unifresher: “Mae Abertawe wedi cyrraedd y brig mewn mwy o dablau pwnc nag unrhyw sefydliad arall, gan gynnwys Rhydychen, Caergrawnt, a phob prifysgol Grŵp Russell".
Cyflawnodd Prifysgol Abertawe y perfformiad cryfaf ar lefel pwnc yn genedlaethol o blith 124 o brifysgolion y DU sydd wedi'u cynnwys yn y rhestr. Cofnodwyd:
- 20 safle cyntaf mewn pynciau – y cyfanswm uchaf o unrhyw brifysgol yn y DU.
- 36 safle yn y pum uchaf – mwy nag unrhyw sefydliad arall yn y rhestrau.
- 40 safle yn y 10 uchaf — gan osod Abertawe yn ail yn genedlaethol yn ôl y mesur hwnnw
- Yn yr wythfed safle yn gyffredinol.
Mae'r rhestrau'n asesu 85 o bynciau ar draws wyth metrig sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr: ansawdd addysgu, boddhad myfyrwyr, enillion graddedigion, cymorth academaidd, diogelwch, cynaliadwyedd, bywyd cymdeithasol, a chostau byw.
Drwy ganolbwyntio ar ganlyniadau myfyrwyr a phrofiad o’u cwrs, mae'r rhestrau'n rhoi safbwynt gwahanol ar berfformiad prifysgolion ac yn tynnu sylw at sefydliadau sy'n cyflawni canlyniadau cryf yn gyson o ran addysgu, cymorth a boddhad myfyrwyr.
Cyrhaeddodd Abertawe'r brig yn y DU yn y pynciau canlynol:
- Athroniaeth
- Bioleg y Môr
- Cemeg
- Criminoleg
- Cyfrifeg a Chyllid
- Cyfryngau a Chyfathrebu
- Cymdeithaseg
- Cysylltiadau Rhyngwladol
- Daearyddiaeth
- Economieg
- Fferylliaeth
- Gwyddor Actiwaraidd
- Gwyddor Chwaraeon
- Llenyddiaeth Saesneg
- Peirianneg Gemegol
- Peirianneg Fecanyddol
- Peirianneg Meddalwedd
- Seicoleg
- Sŵoleg
- Therapi Galwedigaethol