Grŵp mawr o oedolion yn sefyll gyda'i gilydd y tu mewn i ystafell.

Cystadleuwyr a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth IT FLIES eleni gyda beirniaid a threfnwyr yng nghyfleuster efelychu hedfan Prifysgol Abertawe.

Rhoddodd myfyrwyr awyrofod eu sgiliau ar brawf mewn cystadleuaeth ryngwladol gyda'r nod o amlygu eu doniau technolegol – ac, unwaith eto, roedd Prifysgol Abertawe ymysg yr enillwyr gwobrau.

Cydweithredodd y Brifysgol ag ST Engineering Antycip i gynnal cystadleuaeth Dylunio a Thrin Awyrennau IT FLIES UK 2026. Mae'r digwyddiad blynyddol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr roi eu dyluniadau damcaniaethol ar brawf mewn amgylchedd byd go iawn efelychedig.

Gwnaeth chwe thîm o fyfyrwyr prifysgolion y DU ac Ewrop gyflwyno ac amddiffyn eu dyluniadau cysyniadol eu hunain ar gyfer awyrennau cyn i'r rhain gael eu gwerthuso gan beilotiaid prawf proffesiynol yn Efelychydd Hedfan Merlin ar Gampws y Bae.

Dyma'r enillwyr:

  • Y Dyluniad Awyren Gorau – Prifysgol De Cymru, The Nabla Wyvern;
  • Yr Awyren Arloesol Orau – Prifysgol De Cymru, The Orca; ac,
  • Y Cyflwyniad Gorau - Prifysgol Abertawe, The Marlin.

Yn ogystal ag ennill y wobr gyntaf, enillodd y tîm buddugoliaethus o Brifysgol De Cymru gyfle i siarad yng Nghynhadledd Efelychu Hedfan Cymdeithas Awyrenneg Frenhinol 2026, lle bydd y myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith dylunio i gynulleidfa awyrennau proffesiynol.

Meddai'r Athro Spencer Jeffs, pennaeth Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe, “Unwaith eto, mae'r digwyddiad bendigedig hwn wedi rhoi cyfle i ni alluogi myfyrwyr, o Brifysgol Abertawe a'r tu hwnt, i roi eu sgiliau ar brawf gan ddefnyddio ein cyfleusterau a'n hefelychwyr.

“Mae hi bob amser yn gyffrous gweld ein darpar beirianwyr awyrofod ar waith yma ym Mhrifysgol Abertawe. Gwnaed argraff fawr gan sgiliau meddwl technegol, creadigrwydd a phroffesiynoldeb y myfyrwyr.”

Meddai Amir Khosh, Rheolwr Merlin yn Antycip, “Mae IT Flies yn parhau i arddangos creadigrwydd, galluoedd technegol a brwdfrydedd anhygoel y genhedlaeth nesaf o beirianwyr awyrofod. Yr hyn sy'n gwneud y gystadleuaeth yn wirioneddol arbennig yw'r cyfle i fyfyrwyr gael blas ar ddefnyddio efelychu i bontio'r bwlch rhwng dyluniad damcaniaethol a gwerthuso yn y byd go iawn.

“Rydyn ni'n hynod falch o barhau i gefnogi'r fenter hon ar y cyd â Phrifysgol Abertawe.”

Rhagor o wybodaeth am astudio Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori