Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00299
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£22,681 i £24,533 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
21 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
5 Awst 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Sarah Gwilym s.e.gwilym@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Prif ddiben y rôl fydd cynorthwyo gyda chreu a churadu cynnwys Cymraeg ar gyfer ystod o sianelau digidol. Bydd y rôl yn cynorthwyo gydag adrodd stori Abertawe yn Gymraeg drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd, gan weithio gydag amrywiaeth o adrannau a chreu postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a monitro rhyngweithiadau ac ymgysylltiad.

Mae'r rôl yn galw am ymagwedd drefnus, ragweithiol a chreadigol gyda phrofiad o greu cynnwys Cymraeg ar gyfer sianelau digidol megis TikTok ac Instagram.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr