Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00368
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£22,681 i £24,533 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
24 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
29 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae hwn yn gyfle am swydd lawn amser (35 awr) am gyfnod o dri mis.

Bydd y Cynorthwyydd Gweinyddol yn cefnogi sawl tîm o fewn Academi Hywel Teifi.

Bydd yn gyfrifol am gefnogi staff swyddfa weinyddol DCABA wrth ymateb i ymholiadau ffôn ac ebost gan ddysgwyr, darpar ddysgwyr a’r cyhoedd. Bydd y Cynorthwyydd hefyd yn cyflawni tasgau gweinyddol dydd-i-ddydd yn y swyddfa.

Bydd hefyd yn cydweithio gyda staff yr uned Cydymffurfiaeth Iaith a Chyfieithu trwy ymateb i ymholiadau a chefnogi a sicrhau llif gwaith a phrosesau esmwyth y swydda brysur hon.

Bydd natur y gwaith yn amrywio ac yn amrywiol. Mae’n gyfle gwych i gael profiad o weithio mewn amgylchedd a chyd-destun proffesiynol Cymreig a Chymraeg o fewn y Brifysgol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 2 - Eithaf da. Bydd deiliad y swydd yn gallu deall ystod o ohebiaeth sy'n gysylltiedig â'r swydd, cynnal sgwrs syml, ac ysgrifennu gohebiaeth weddol gywir yn Gymraeg. Bydd efallai angen troi at Saesneg i drafod materion cymhleth neu dechnegol.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho Swydd Cynorthwy-ydd Gweinyddol Dros Dro_terfynol.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr