Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00611
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£29,659 i £33,232 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
29 Tach 2024
Dyddiad Cyfweliad
12 Rhag 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) – cyfleuster newydd blaenllaw Prifysgol Abertawe y buddsoddwyd £55m ynddo ar gyfer ymchwil a datblygu lled-ddargludyddion datblygedig.

Bydd y Technegydd Cyfarpar Lled-ddargludol yn cefnogi'r cyfleuster a'r cyfarpar yn CISM fel rhan o dîm gweithrediadau technoleg sefydledig. Gan weithio gyda'r tîm a chontractau allanol, bydd deiliad y rôl yn cefnogi'r gwaith o gynnal a chadw a gweithredu'r holl gyfarpar lled-dargludol a'r ganolfan gysylltiedig. 

Mae'r rôl yn cynnwys amrywiaeth ddiddorol o dasgau a chyfrifoldebau fel yr amlinellir yn y disgrifiad swydd, a bydd yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio mewn sector arloesol sy'n tyfu yn ne Cymru. 

Ariennir y rôl drwy gyfuniad o Gronfa CSconnected Cryfder mewn Lleoedd Innovate UK a'r prosiect a sefydlwyd yn ddiweddar SAFEPOWER Horizon Ewrop. Bydd deiliad y rôl yn gyfrifol am gynnal cyfarpar i gefnogi'r prosiectau hyn.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr