- Rhif y Swydd
- SU00632
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £33,882 i £37,999 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 24 Tach 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 29 Tach 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
- Harshinie Karunarathna h.u.karunarathna@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma swydd Cynorthwy-ydd Ymchwil ran-amser am gyfnod penodol (ar 75% CALl am 27 mis, o 01.02.25 tan 30.06.2027) wedi’i hariannu gan grant ymchwil yr Athro Harshinie Karunarathna a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Bydd y Cynorthwy-ydd Ymchwil yn cynnal ymchwil yn uniongyrchol dan oruchwyliaeth yr Athro Karunarathna, gan ganolbwyntio ar ddulliau'n seiliedig ar natur, â chymorth deallusrwydd artiffisial, a ddefnyddir i reoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol a gynorthwyir gan wlyptiroedd arfordirol.
Dylai'r ymgeisydd delfrydol feddu ar gefndir ymchwil cadarn a hanes o brofiad mewn eco-hydroleg yr amgylchedd arfordirol, modelu cyfrifiadol hydro-morffoddeinameg arfordirol sy'n seiliedig ar broses gan ddefnyddio XBeach, datblygu a defnyddio modelau ar sail data gan gynnwys modelu prosesau “Gaussian” a thechnegau dysgu peirianyddol eraill sy'n berthnasol i eco-hydroleg, technegau arbrofol sy'n seiliedig ar laser ar brosesau cludiant gwaddodion mewn gwlyptiroedd arfordirol, cymathu data maes a data arbrofol ar gludiant gwaddodion, a deinameg proses cludiant gwaddodion ym morfyedd heli y DU. Dylai'r ymgeisydd hefyd fedru datblygu modelau gan ddefnyddio iaith raglennu Python a meddu ar ymwybyddiaeth gadarn o gymryd mesuriadau hydrodynameg a chludiant gwaddodion ar y safle ym morfeydd heli’r DU, a medru dangos eu bod yn medru gweithio y tu hwnt i ffiniau traddodiadol y ddisgyblaeth.
Dehonglir y disgrifiad swydd hwn yn ôl disgresiwn deiliad y grant, yr Athro Harshinie Karunarathna gan fod hon yn rôl arbenigol iawn ar gyfer cyflwyno prosiect ymchwil hynod arbenigol. Cysylltwch â'r Athro Harshinie Karunarathna (H.U.Karunarathna@abertawe.ac.uk) am fanylion penodol a gwybodaeth ychwanegol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Mae'r cytundeb hwn yn gysylltiedig â swydd Tiwtor Addysgu ran-amser am gyfnod penodol ar 25% CALl ar gyfer yr un cyfnod sydd wedi'i hariannu gan yr un grant. Wedi'u cyfuno, mae'r ddwy rôl, sef y Cynorthwy-ydd Ymchwil a'r Tiwtor gyfwerth ag un swydd amser llawn ar 100% CALl am 27 mis, yn atebol i'r Athro Harshinie Karunarathna.