Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00249
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
3 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
14 Mai 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Matt Carnie m.j.carnie@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Prifysgol Abertawe'n arwain Rhaglen Grant ATIP, menter arloesol gwerth £6 miliwn a ariennir gan yr EPSRC, mewn cydweithrediad â Choleg Imperial Llundain a Phrifysgol Rhydychen wedi'i gefnogi gan gonsortiwm o 12 partner diwydiannol. Mae ATIP yn ymroddedig i arloesi'r egwyddorion gwyddonol a pheirianyddol sy'n angenrheidiol i annog mabwysiadu celloedd ffotofoltäig a pherofsgit arloesol (PV) ar gyfer cymwysiadau technolegol hanfodol.

Elfen ganolog o genhadaeth ATIP yw datblygu atebion ffotofoltäig sy'n gallu harneisio golau amgylcheddol a golau dan do. Drwy wneud hyn, bydd y don nesaf o ddyfeisiau’r rhyngrwyd pethau (IoT) yn gallu eu pweru eu hunain, gan osgoi'r costau amgylcheddol ac economaidd sy'n gysylltiedig â newid ac ailwefru batris. Nod y newid sylfaenol hwn yw arbed ynni a deunyddiau prin gan leihau ôl troed carbon y dyfeisiau hollbresennol hyn.

I hwyluso'r prosiect trawsnewidiol hwn, rydym am benodi Swyddog Ymchwil sy'n arbenigo mewn electroneg cynaeafu ynni gan ganolbwyntio ar ecosystemau cynaliadwy’r rhyngrwyd pethau. Mae'r rôl yn addas i ymgeisydd sy'n ffynnu mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol, gan gyfuno gwybodaeth gan arbenigwyr ynni solar i gyfoethogi ei arbenigedd mewn cynaeafu â'r nod, yn y pen draw, o arloesi nodau synwyryddion hunangynhaliol ar gyfer y rhyngrwyd pethau.

Dylai darpar ymgeiswyr ddangos craffter technegol dwys mewn systemau cynaeafu ynni electronig, ynghyd â phrofiad sylweddol o ddyfeisio electroneg ynni-effeithlon, gan gynnwys dylunio PCB, gweithgynhyrchu a hyfedredd gyda PMIC cynaeafu ynni. Mae PhD mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig neu ddisgyblaeth gysylltiedig â ffocws ar dechnoleg cynaeafu ynni yn hanfodol ar gyfer y rôl. Rhaid i ymgeiswyr ddangos hanes o gyfraniadau personol sylweddol at gyhoeddiadau ymchwil, yn enwedig mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid a rhaid iddynt feddu ar sgiliau cysyniadu ymchwil a drafftio, neu gyd-ddrafftio, cynigion am gyllid ymchwil

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd ceisiadau ar gyfer y rôl hon yn cymrydar ffurf cyflwyno CV a llythyr eglurhaol.

Rhannu

Lawrlwytho FSE Candidate Brochure (CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr