- Rhif y Swydd
- SU00256
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £32,982 i £37,099 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Arall - Gweler y disgrifiad swydd
- Dyddiad Cau
- 3 Mai 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 14 Mai 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Darren Oatley-Radcliffe D.L.Oatley@swansea.ac.uk
- Alla Silkina A.Silkina@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd Prosiect LightArc yn cyflawni chwyldro ym maes dal ac ailddefnyddio carbon. Wedi'i noddi gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (CCUS Innovation 2.0), bydd LightArc yn defnyddio micro-algâu i droi allyriadau CO2 crai diwedd pibell yn fiomas heb yr angen i gyn-brosesu'r nwy ffliw. Mae biomas yn cynnwys protein gwerth uchel y gellir ei fformiwleiddio i greu porthiant anifeiliaid a chynhyrchion eraill. Bydd y prosiect hwn yn defnyddio system bio-adweithydd newydd ac yn ehangu'r gweithrediad i brosesu hyd at 100tCO2 y dydd.
Bydd y rôl yn cefnogi gweithgareddau beunyddiol y prosiect megis: meithrin algâu yn y labordy ac ar raddfa ddiwydiannol, casglu samplau o fiomas a dadansoddi cynnwys cellol, dadansoddi perfformiad adweithydd, adrodd am ganlyniadau, rhoi mewnbwn i strategaethau cynhyrchu...etc. Oherwydd natur y gwaith, mae'n bosib y bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar Gampws Singleton neu Gampws y Bae ac ar safle defnyddio Vale Europe Ltd yn ôl yr angen. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol gefndir profedig yn gweithio mewn amgylchedd cynhyrchu algâu, naill ai mewn labordy neu ar raddfa ddiwydiannol neu'r ddau.
Prosiect ymchwil cydweithredol yw hwn rhwng Prifysgol Abertawe, Vale Europe Limited https://www.vale.com , a Remediate https://www.remediiate.com
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd ceisiadau ar gyfer y rôl hon yn cymrydar ffurf cyflwyno CV a llythyr eglurhaol.