Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00262
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£45,585 i £54,395 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
13 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
7 Meh 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Grŵp Marchnata a Thwristiaeth yn yr Ysgol yn chwilio am unigolyn ymrwymedig, brwdfrydig ac egnïol sydd â'r potensial i wneud cyfraniadau sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes marchnata at waith un neu fwy o ganolfannau ymchwil yr Ysgol Reolaeth. Bydd profiad academaidd a phroffesiynol helaeth o ddamcaniaeth ac ymarfer marchnata yn hanfodol er mwyn gwneud cyfraniad effeithiol at ddatblygu, cyflwyno ac ehangu ein rhaglenni BSc ac MSc mewn Marchnata. Mae diddordeb ac arbenigedd mewn marchnata digidol yn ddymunol iawn; croesewir cefndir neu ddiddordeb mewn twristiaeth hefyd.

Mae'r Ysgol Reolaeth yn un o’r 50 o ysgolion busnes gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer Rhagoriaeth Ymchwil. Yn 2015, symudodd yr Ysgol i Gampws y Bae y Brifysgol. Yn ogystal â darparu cyfleusterau addysgu ac ymchwil i fwy na 2,000 o fyfyrwyr a 150 o aelodau staff, mae Campws y Bae yn ganolbwynt cydweithredu â byd diwydiant, gan gynnig cyfleusterau i sefydliadau megis Comisiwn Bevan ac AgorIP.

Wrth gynnig cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig mewn Cyfrifeg a Chyllid, Rheoli Busnes, a Marchnata (Strategol) a BSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol, mae'r Ysgol wedi creu cysylltiadau â diwydiant a sefydliadau partner ym mhedwar ban byd. Mae pob cwrs israddedig yn cynnig opsiwn i fyfyrwyr wneud blwyddyn mewn diwydiant neu astudio dramor am flwyddyn mewn prifysgol bartner mewn gweledydd sy'n cynnwys Awstralia, Denmarc, Hong Kong ac UDA.

Ochr yn ochr ag addysgu, mae'r Ysgol hefyd yn gartref i ganolfannau ymchwil amrywiol, gan gynnwys y Ganolfan ar gyfer Ymchwil i'r Economi Ymwelwyr (CVER); Dyfodol Digidol ar gyfer Busnes a Chymdeithas Cynaliadwy; Canolfan Cyllid Empirig Hawkes; Pobl a Sefydliadau; iLab Abertawe; a Chanolfan Ymchwil a Gwerthuso Marchnad Waith Economi Cymru (WELMERC)

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Ymchwil. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Dylai deunyddiau eich cais gynnwys agenda ymchwil 5 mlynedd a datganiad am eich profiad a'ch athroniaeth addysgu

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn yr Ymgeisydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr