Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00263
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£32,982 i £37,099 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
3 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
16 Mai 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Aimee Grant aimee.grant@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon am gyfnod rhwng 70 mis ac wyth blynedd am 35 awr yr wythnos (amser llawn).
Bydd deiliaid y swyddi hyn yn gweithio ar Gampws Singleton ond gellir cytuno ar drefniadau gweithio hyblyg yn unol â pholisi gweithio ystwyth y Brifysgol.

Mae'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a'r Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r Ysgol yn rhyngddisgyblaethol, gan gynnwys staff o iechyd cyhoeddus a'r proffesiynau gofal iechyd. Mae'n un o dair ysgol yn y Gyfadran, ynghyd â'r Ysgol Seicoleg ac Ysgol Feddygaeth Abertawe. Hefyd mae’n gartref i Ganolfan Gwella ac Arloesi Abertawe ac mae ganddi gysylltiadau agos â Chanolfan Economeg Iechyd Abertawe a’r Ganolfan Heneiddio Arloesol. Anogir yr ymgeisydd llwyddiannus i weithio’n gydweithredol gyda staff ledled y Gyfadran.

Gallwch ddarllen rhagor am fanteisio gweithio ym Mhrifysgol Abertawe yma:

https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/swyddi-a-gweithio-yn-abertawe/swyddi-a-gweithio-yn-abertawe/

Yn ddiweddar, derbyniodd Dr Aimee Grant, sy'n academydd Awtistig, gyllid gwerth £2.4 miliwn gan Ymddiriedolaeth Wellcome i weithio gydag  Autistic UK a Thriniaeth Deg i Fenywod Cymru ar brosiect wyth mlynedd o hyd.   Nod y swyddi cysylltiedig yw ymgymryd ag ymchwil ansoddol hydredol gyda phedwar grŵp o 25 menyw Awtistig.

Bydd chynorthwy-ydd ymchwil, yn gyfrifol am un grŵp o gyfranogwyr yr un, gan gyfweld â phob chyfranogwr hyd at 10 gwaith dros gyfnod o bum mlynedd.  Caiff cyfweliadau eu cynnal drwy ddefnyddio dulliau gweledol wedi'u teilwra'n unigol, i ganolbwyntio ar brofiadau'r cyfranogwyr.  Mae gan yr astudiaeth gyllideb ddigonol i roi amser i’r tîm ymchwil feithrin perthnasoedd cefnogol a dwy-ffordd â chyfranogwyr i’w galluogi i gymryd rhan yn yr astudiaeth dros y tymor hir.

Bydd hefyd gyfleoedd i'r swyddog ymchwil fanteisio ar gyfleoedd datblygu sy'n bodloni ei amcanion gyrfa hir dymor, a pholisi cyhoeddi cynhwysol.

Rydym ni'n chwilio am bedwar ymchwilydd uchel eu cymhelliant sy'n gallu bod yn rhan hanfodol o'r prosiect hwn, gan fodloni meini prawf y disgrifiad swydd naill ai fel cynorthwy-ydd ymchwil neu swyddog ymchwil. Dylai'r holl ymgeiswyr allu dangos gwybodaeth gref am Awtistiaeth, o safbwynt sy'n gadarnhaol am niwroamrywiaeth, gan gynnwys fel person Awtistig, drwy brofiad personol, profiad ymchwil neu brofiad gwaith. Yn ddelfrydol, bydd gennych chi brofiad o gyhoeddi a/neu sicrhau grantiau yn y maes hwn yn benodol. At hynny, byddwch yn meddu ar wybodaeth am fodel cymdeithasol anabledd a'r mudiad niwroamrywiol, a bydd gennych ymrwymiad i werthfawrogi safbwyntiau'r gymuned Awtistig.

Cyfnod Penodol tan 30 Mehefin 2029.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae dynion wedi'u tangynrychioli yn y maes ymchwil hwn, felly byddem yn croesawu ceisiadau am y swydd hon gan ddynion yn benodol. Hefyd, mae unigolion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y maes ymchwil hwn a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn. Penodir ar sail teilyngdod bob amser.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd ceisiadau ar gyfer y rôl hon yn cymrydar ffurf cyflwyno CV a llythyr eglurhaol.

Dylech gynnwys yn eich llythyr eglurhaol ddatganiad hyd at uchafswm o 1,000 o eiriau yn ateb y cwestiwn canlynol: Sut y byddai eich gwybodaeth a'ch profiad o Awtistiaeth yn sicrhau eich bod yn gallu darparu cefnogaeth ragorol i gyfranogwyr awtistig yn yr astudiaeth hon?

Bydd yn rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho FMHLS Candidate Brochure (CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr