Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00269
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£45,585 i £64,914 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
16 Meh 2024
Dyddiad Cyfweliad
10 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae gan Brifysgol Abertawe agenda uchelgeisiol i wella ein hymchwil ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg lled-ddargludyddion i gefnogi'r diwydiant lled-ddargludyddion rhanbarthol sy'n ehangu. Yn 2024, byddwn yn agor ein Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) newydd – cyfleuster lled-ddargludyddion modern gwerth £55 miliwn ar gyfer saernïo ac astudio deunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludol datblygedig. Mae CISM yn unigryw yng nghyd-destun y DU: mae'n labordy saernïo a gynhelir gan brifysgol, wedi'i adeiladu ar egwyddorion gweithgynhyrchu gydag offer sy'n berthnasol i'r diwydiant a chapasiti ar gyfer ffowndri beilot. Rydym yn arbenigo mewn lled-ddargludyddion ar gyfer gofal iechyd, ynni glân, pŵer effeithlon a micro-electroneg, a chysyniadau dros y gorwel fel ioneg a bioelectroneg. Mae ein ffocysau ymchwil yn cael eu tanategu gan egwyddorion arloesi ym maes lled-ddargludyddion ar gyfer sero net, integreiddio heterogenaidd uwch a chylcholdeb gweithgynhyrchu. Mae cysylltiad agos rhwng CISM a diwydiant lled-ddargludyddion de Cymru a'r DU, ac mae ganddo bortffolio o brosiectau gwerth mwy nag £20 miliwn, y rhan fwyaf ohonynt gyda chydweithrediad agos yn y diwydiant. Mae ein cymuned CISM o fwy na 70 o ymchwilwyr yn cael ei meithrin o amgylch Sefydliad Ymchwil Rhyngddisgyblaethol a dynnwyd o ddisgyblaethau Ffiseg, Cemeg a Pheirianneg, gyda phartneriaethau ledled y byd.

Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r ecosystem ffyniannus hon. Mae'r Adran Ffiseg, gyda grwpiau ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang mewn Deunyddiau Cymhwysol, Ffiseg Gwrthfater a Ffiseg Ynni Uchel Ddamcaniaethol, yn dymuno recriwtio Ffisegydd Lled-ddargludyddion. Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol hanes o bwys rhyngwladol a chynyddol mewn unrhyw faes ffiseg lled-ddargludyddion, ac yn ddelfrydol arbenigedd mewn lled-ddargludyddion moleciwlaidd (organig, perofsgitau, 2D, etc), y genhedlaeth nesaf o blatfformau eraill fel ocsidau bwlch eang, yn enwedig yn cyd-fynd â meysydd ffocws CISM. Mae CISM yn gyfleuster ymchwil ac arloesi lled-ddargludyddion o safon fyd-eang, a gallwn ddarparu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau agos â byd diwydiant, a brwdfrydedd am ddatblygu, hyrwyddo a masnacheiddio technoleg. Ein ffocws yw annog yr ymchwil sylfaenol a chymhwysol o'r ansawdd uchaf hyd at gyflawni effaith a chanlyniadau sy'n ystyrlon i'r rheidrwydd Sero Net. Rydym yn gwneud pethau'n wahanol yn Adran Ffiseg Abertawe ac yn CISM.       

Llwybr Gyrfa Academaidd

Mae'r swydd hon ar lwybr Ymchwil. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd ceisiadau ar gyfer y rôl hon yn cymrydar ffurf cyflwyno CV a llythyr eglurhaol.

Rhannu

Lawrlwytho Disgifiad swydd AP.docx Lawrlwytho FSE Candidate Brochure (CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr