DATGELU I'R HEDDLU

Bwriad y canllawiau hyn yw ymdrin â sefyllfaoedd lle mae'r Brifysgol yn cael ceisiadau gan asiantaethau gorfodi'r gyfraith neu asiantaethau eraill i ddarparu data personol am fyfyrwyr, staff, neu unigolion eraill y mae'r Brifysgol yn cadw gwybodaeth amdanynt. Rhaid rheoli'r holl ddata personol yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR), gan sicrhau bod pob datgeliad yn gyfreithiol.

 

Cyn i ni ryddhau data i asiantaeth gorfodi'r gyfraith, mae angen i ni sicrhau bod yr wybodaeth yn cael ei rhoi i ymchwiliad dilys sydd wedi'i awdurdodi'n briodol. Os nad ydym yn fodlon bod sail ddilys am ryddhau'r wybodaeth, nid yw'r Ddeddf Diogelu Data'n ein gorfodi i'w rhyddhau.