Gwybodaeth Gyffredinol

Rydym ni, "Prifysgol Abertawe" yn ymrwymedig i ddiogelu preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol. O dan ddeddfwriaeth diogelu data, rydym yn "rheolydd data". Mae hyn yn golygu ein bod yn cadw gwybodaeth bersonol amdanoch chi a'n bod yn gyfrifol am benderfynu sut rydym yn storio ac yn defnyddio'r wybodaeth bersonol honno. Fel rheolydd data, rhaid i ni hysbysu pobl am y ffyrdd rydym yn defnyddio eu gwybodaeth bersonol. Rhaid i ni ddweud wrthych am y mathau o wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu, diben ei defnyddio a'r rhesymau cyfreithiol yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 sy'n ein galluogi i'w defnyddio yn y ffyrdd hyn, am ba hyd y gallwn gadw'r wybodaeth a sut gallwch ymarfer eich hawliau.

Y Swyddog Diogelu Data

Mae'r Brifysgol wedi penodi Swyddog Diogelu Data:

Swyddog Diogelu Data,

Swyddfa'r Is-ganghellor,

Prifysgol Abertawe

Parc Singleton

Abertawe

SA2 8PP

E-bost: dataprotection@abertawe.ac.uk

Eich data personol a'i brosesu

Rydym yn diffinio data personol fel gwybodaeth sy'n perthyn i unigolyn byw y gellir ei adnabod. Hefyd gall gynnwys  "categorïau arbennig o ddata", sef gwybodaeth am eich tarddiad hiliol neu foesegol, credoau crefyddol neu eraill, iechyd corfforol neu feddyliol, y mae ei brosesu'n amodol ar ofynion caeth. Yn yr un modd, mae gwybodaeth am gollfarnau troseddol hefyd yn amodol ar ofynion caeth. Ystyr "prosesu" yw unrhyw weithred a wneir gennym gan ddefnyddio eich data personol, er enghraifft cael, storio, trosglwyddo neu ddileu.

Rydym dim ond yn prosesu data at ddibenion penodol ac os yw'n gallu cael ei gyfiawnhau yn unol â'r ddeddf diogelu data. Rhoddir manylion pob diben prosesu a'i sail gyfreithiol ym mhob hysbysiad preifatrwydd a ddarperir - darllenwch yr un sydd fwyaf addas ar gyfer eich perthynas â'r Brifysgol.

Am ba mor hir byddwn ni'n cadw eich data

Oni bai fod cyfnodau amser penodol yn cael eu nodi yn yr Hysbysiad Preifatrwydd perthnasol, cedwir eich data yn unol ag Amserlen Cadw Cofnodion y Brifysgol.

Wrth benderfynu ar y cyfnod perthnasol i gadw data personol, rydym yn ystyried hyd a lled, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg o niwed pe bai'ch data personol yn cael ei ddefnyddio neu ei ddatgelu heb awdurdod, dibenion prosesu'ch data personol ac a fyddai modd i ni gyflawni'r dibenion hynny drwy ddulliau eraill, a'r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Os oes angen mwy o gyngor arnoch am ba mor hir y cedwir eich data, e-bostiwch y tîm diogelu data.

Eich Hawliau fel Gwrthrych y Data

Mae deddfwriaeth diogelu data'n darparu nifer o hawliau gwahanol i unigolion mewn perthynas â'u data. I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau gan gynnwys os ydych am adolygu, dilysu, cywiro neu ofyn i ddileu eich gwybodaeth bersonol, gwrthwynebu i brosesu eich data personol, neu ofyn i ni drosglwyddo copi o'ch gwybodaeth bersonol i barti arall, ewch i'n tudalen we am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â'r tîm diogelu data.

Tynnu Cydsyniad yn ôl

Os ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i brosesu eich data, gallwch dynnu'ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.  Gellir darparu gwybodaeth am sut i wneud hyn ar adeg rhoi'r caniatâd.

Ymarfer eich hawliau, ymholiadau a chwynion

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, os ydych am ymarfer unrhyw hawl, am ymholiadau sydd gennych neu os ydych am wneud cwyn, cysylltwch â'r tîm diogelu data.

Hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth

Mae gennych yr hawl i gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am y ffordd rydym yn prosesu eich data personol. Gallwch wneud cwyn ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Hysbysiadau Preifatrwydd

Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd sydd fwyaf addas i'ch perthynas â'r Brifysgol. Sylwer, yn ogystal â'r hysbysiadau hyn, gallech gael gwybodaeth breifatrwydd ychwanegol lle bydd angen i ni ddweud wrthych am rywbeth nad yw wedi cael ei gynnwys yn yr hysbysiadau hyn.

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD MYFYRWYR

DATGANIAD PREIFATRWYDD DATA YMGEISWYR

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD STAFF

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD YMGEISWYR AM SWYDD

ALUMNI

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD YMCHWIL

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD: PRESENOLDEB MEWN DIGWYDDIAD

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD I DRYDYDD PARTÏON AC YMWELWYR

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD: RECORDIO DARLITHOEDD A CHYFARFODYDD

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD RECORDIO CYFARFODYDD Y GWASANAETHAU ACADEMAIDD

HYSBYSIAD PREIFATRWYDD: TRACIO AC OLRHAIN COVID-19