Singleton Abbey Building - Exterior

Statws Elusennol

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn elusen gofrestredig ers mis Hydref 2010 (rhif elusen 1138342), ac felly mae’n atebol i’r Comisiwn Elusennau ac mae’n rhaid iddi gydymffurfio â’i ganllawiau. Mae'r Cyngor yn gweithredu fel Bwrdd Ymddiriedolwyr yr elusen. Felly, mae holl aelodau'r Cyngor yn ymddiriedolwyr y Brifysgol. 

Amcanion y Brifysgol fydd hybu dysg a gwybodaeth trwy addysgu ac ymchwil, ymgymryd â gweithgareddau i hyrwyddo datblygiad diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru a’r tu hwnt a chyfrannu iddynt.

Mae’r Brifysgol yn gorfforaeth annibynnol y daw ei statws cyfreithiol o Siarter Frenhinol a gymeradwywyd yn wreiddiol ym 1920, gan gymeradwyo’r awdurdod i addysgu, i gynnal ymchwil ac i ddyfarnu tystysgrifau gradd a chymwysterau eraill. Mae gwrthrychau, pwerau a fframwaith llywodraethu’r Brifysgol wedi’u gosod yn y Siarter Atodol, y cymeradwywyd y diwygiadau diweddaraf iddi gan y Cyfrin Gyngor yn 2007 a’i Statudau ategol. Mae'r Statudau yn pennu nifer o reolau lefel uchel sy'n cefnogi'r Stiarter ac mae'r rhain, yn eu tro, yn cael eu cefnogi gan Ordinhadau.

Cyhoeddir Datganiad Llywodraethu Corfforaethol, Datganiad Buddion Cyhoeddus a datganiadau ariannol cyfunol blynyddol y Brifysgol ar ein gwefan yma. 

Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i hysbysu’r Comisiwn Elusennau yn brydlon ac yn gyflawn am bob digwyddiad difrifol hyd yn oes os yw’r Heddlu neu reoleiddwyr eraill wedi cael eu hysbysu amdano. Felly, mae'r Cyngor wedi cymeradwyo gweithdrefn sy'n darparu cyfarwyddyd ar roi gwybod i'r Comisiwn Elusennau am achosion difrifol.