Y rhaglen sy'n cefnogi chwaraewyr rygbi benywaidd sydd â'r potensial i gyrraedd lefel elît.

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn hwyluso un o dair Canolfan Datblygu Chwaraewyr (PDC) Undeb Rygbi Cymru yng Nghymru. Nod y canolfannau yw canolbwyntio ar ddatblygu chwaraewyr rygbi sy'n fenywod neu'n ferched ledled Cymru sy'n chwarae ar lefel uchel, a chefnogi'r bwlch rhwng datblygiad a rygbi elît.

Mae'r rhaglen PDC, sydd wedi'i hariannu ar y cyd ag Undeb Rygbi Cymru, yn darparu hyfforddiant o safon uchel i athletwyr sy'n fenywod neu'n ferched rhwng 16 a 25 oed ac sydd â'r potensial i gyrraedd lefel elît. Cynhaliom sgwrs ag ychydig o'r chwaraewyr i gofnodi eu barn ar y rhaglen PDC a chlywed sut maent yn credu bod y rhaglen wedi'u cefnogi wrth iddynt ddatblygu eu gyrfa rygbi.

 

Ciara Taylor

  • Astudio: Safon Uwch
  • Chwaraewr PDC ers: Mawrth 2024

Sut mae'r rhaglen PDC wedi dy helpu i ddatblygu dy sgiliau rygbi?

Rwyf wedi cael y cyfle i weithio gyda staff hyfforddi Undeb Rygbi Cymru, ynghyd â hyfforddwyr y rhaglen PDC, sydd â rhaglen benodol i'm helpu i weithio ar fy sgiliau, fy nghryfder a'm cyflymder ac rwy'n credu fy mod i wedi gwella'r rhain.

Pa gyfleoedd y mae'r rhaglen PDC wedi eu darparu i ti?

Oherwydd fy mod i'n rhan o'r PDC, roeddwn i'n gallu cymryd rhan a chadw cymhelliad hyd yn oed pan gollais i'r cyfle i gael fy newis ar gyfer gemau'r chwe gwlad eleni, ac nawr mae gennyf gyfle i gymryd rhan yn sesiynau adnabod doniau Cymru.

Beth yw dy uchafbwynt ers i ti fod yn y PDC?

Mae'r PDC wedi rhoi'r cyfle i mi hyfforddi gyda grŵp mawr o ferched sydd o'r un meddylfryd â mi ac sy'n frwdfrydig iawn am rygbi. Mae'n ddifyr hyfforddi gyda phobl newydd ac mae hynny wedi fy ysgogi i weithio'n galetach byth. Mae bob amser rhywun i hyfforddi gyda fi a rhywun proffesiynol i fy nhywys. Hefyd, roedd yn fraint cael y cyfle i gael fy hyfforddi gan Ioan Cunningham a Lisa Burgess.

 

Finley Jones

  • Astudio: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Chwaraewr PDC ers:

Pa gyfleoedd y mae'r rhaglen PDC wedi eu darparu i ti?

Mae'r PDC wedi rhoi mynediad parhaus i fi at y gampfa a sesiynau sgiliau. Gallaf gael cyfarfodydd un i un â hyfforddwyr ynghyd ag adborth cyson ar ôl gemau a hyfforddiant. Mae PDC wedi fy helpu i reoli fy llwyth gwaith ac mae wedi rhoi blas i mi ar sut brofiad fyddai hyfforddi ar lefel elît.

Beth yw dy uchafbwynt ers i ti fod yn y PDC?

Yn sgîl dysgu sgiliau newydd a datblygu dealltwriaeth well o elfennau technegol a thactegol y gêm, roeddwn i'n gallu dechrau hyfforddi ochr yn ochr ag Alex Callender a Sioned Harries, chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru, pan gynrychiolais i Brython Thunder yn yr Her Geltaidd.

Beth yw dy hoff ran am fod yn y PDC?

Cael fy nghymell i wneud fy ngorau glas. Mae Lloyd bob amser yn meddwl am beth sydd orau i mi ac mae'n fy annog bob amser i fod y gorau.

 

Lowri Hill

  • Astudio: TGAU
  • Chwaraewr PDC ers: Mawrth 2024

Sut mae'r PDC wedi dy gefnogi di gyda dy astudiaethau ochr yn ochr â'th hyfforddiant?

Yn ystod fy arholiadau TGAU, roedd y PDC yn hyblyg ac yn cydweddu â'm hadolygu. Mae'r PDC hefyd wedi fy helpu i gydbwyso fy hyfforddiant a'm hadolygu ar gyfer fy arholiadau. Roedd yr hyfforddwyr yn y PDC hefyd yn deall pan oedd rhaid i mi golli rhai sesiynau hyfforddi oherwydd bod gennyf arholiad y bore wedyn.

Beth yw dy gyflawniad mwyaf o ran chwaraeon ers i ti ddechrau'r PDC?

Ers i mi ddechrau'r PDC, fy nghyflawniad chwaraeon mwyaf yw dechrau chwarae i dîm y Gweilch i bobl dan 17 oed, gan ddilyn y bloc rhanbarthol i bobl dan 18 oed

Beth yw dy uchafbwynt ers i ti fod yn y PDC?

Ers i mi ymuno â'r PDC, fy uchafbwynt yw creu recordiau personol newydd yn y gampfa a gweld faint rwyf wedi gwella ers i mi ddechrau'r PDC. Rwyf wedi mwynhau gwthio fy hun bob wythnos i gyflawni'r gorau y gallaf i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn. Dyma'r uchafbwynt oherwydd, pan ddechreuais i, doedd dim profiad gennyf. Felly, mae gallu cyflawni'r gwelliannau hyn mewn cyn lleied o amser yn golygu llawer i fi.

 

Megan Fisher

  • Astudio: BSc mewn Gwyddor Feddygol Gymhwysol
  • Chwaraewr PDC ers: Ionawr 2024

Sut mae'r PDC wedi dy gefnogi di gyda dy astudiaethau ochr yn ochr â'th hyfforddiant?

Mae'r PDC wedi bod yn hynod gefnogol ac yn hyblyg wrth ddiwallu anghenion fy astudiaethau, ac mae'r rhaglen yn gwerthfawrogi bod fy ngradd yn bwysicaf a bod rhaid i hyfforddiant rygbi fod yn hyblyg. Mae hyn wedi fy helpu i ddysgu sut i gydbwyso'r ddau beth.

Pa gyfleoedd y mae'r rhaglen PDC wedi eu darparu i ti?

Mae'r PDC wedi fy ngalluogi i chwarae fel rhan o dîm Cymru i bobl dan 20 oed ac mae'r rhaglen wedi rhoi'r cyfle i mi chwarae rygbi i safon uchel, wrth i mi symud i ffwrdd o Abertawe, hyd yn oed.

Beth wyt ti'n ei wneud ochr yn ochr â'th hyfforddiant yn y PDC?

Ar y cyd â'r PDC, rwy'n gweithio tuag at fy ngradd, rwy'n gweithio'n rhan-amser yng nghlwb rygbi San Helen, rwyf yn y Fyddin Wrth Gefn ac rwyf hefyd yn gapten tîm Prifysgol Abertawe.

Beth yw dy uchafbwynt ers i ti fod yn y PDC?

Uchafbwynt fy amser yn y PDC yw dod i adnabod amrywiaeth eang o ferched o bob oedran, gwylio pawb yn gwella a gweld beth sydd ar yr arfaeth yn nyfodol byd rygbi Cymru.

Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn llawn cyffro i chwaraewyr rygbi benywaidd yn y PDC, ac rydym yn edrych ymlaen at weld dyfodol disglair i'r athletwyr! Dysgwch ragor am y PDC a'i heffaith yma.

Rhannu'r stori