Cyfleusterau sy'n addas i lwyddiant chwaraeon
Mae'n bleser o'r mwyaf gennym fod yn dyst i fuddsoddiad parhaus yng nghyfleusterau chwaraeon y Brifysgol dros y misoedd diwethaf, sy'n cefnogi ei gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer chwaraeon: Chwaraeon Abertawe: Fframwaith Strategol Prifysgol Actif.
Ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe yn Lôn Sgeti, mae'r cae hoci newydd gyda thechnoleg Poligras Tokyo GT gan Polytan yn rhoi arwyneb â haen dŵr i'n timoedd hoci sy'n addas i lwyddiant ar lefel ryngwladol.
Draw ar Gampws y Bae, mae ardal gemau amlddefnydd (MUGA newydd), sy'n edrych dros y traeth, yn boblogaidd iawn ac mae’n cefnogi amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau chwaraeon, gan gynnwys pêl-rwyd, tennis a phêl-fasged. Yn gyfochrog â hyn, ar ochr orllewinol y campws, mae gwaith wedi dechrau i ddyblu lle yn y gampfa ar y safle.
Mae gwelliannau pellach i isadeiledd chwaraeon y Brifysgol hefyd ar y gorwel, gan gynnwys:
- Arwyneb 3G newydd ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe
- Lle newydd sbon ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd ar Gampws y Bae
- Llwybr ffitrwydd awyr agored ar Gampws y Bae
- Cyfarpar wedi'i ddiweddaru sy'n dod i'r ddau gampws cyn hir
Parc Chwaraeon Bae Abertawe yw cartref cyfleusterau chwaraeon Prifysgol Abertawe. Ewch draw i'r wefan i archwilio'r cyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau gwych sydd ar gael, o gampfeydd a chaeau chwarae i neuaddau chwaraeon, trac rhedeg a'n pwll nofio 8 lôn, 50m ein hunain.