Mae Dydd Mercher BUCS yn ôl ac yn ei anterth!

Ar ôl ychydig fisoedd tawel ar y campws, mae'n gyffrous i ni gyhoeddi bod Dydd Mercher BUCS nôl, ac mae Chwaraeon Abertawe yn barod am flwyddyn gyffrous arall!

Gan roi cychwyn arni, agorodd tîm cyntaf Rygbi'r Dynion eu tymor yn erbyn Met Caerdydd, gan gystadlu'n gryf o flaen torf gartref. Er mai Met Caerdydd enillodd y gêm â sgôr o 34-24, daeth ein tîm ni nôl mewn steil gyda buddugoliaeth drawiadol o 34-14 yn erbyn Leeds Beckett. Am adferiad!

Dychwelodd yr holl chwaraeon yn swyddogol yr wythnos diwethaf, ac mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe wedi bod yn llawn bwrlwm ers hynny! Gyda llwyth o berfformiadau o'r radd flaenaf, mae ein timau'n gosod safon uchel.

🎉Roedd y buddugoliaethau clodwiw yn cynnwys:
🏀Pêl-fasged y Dynion yn sicrhau buddugoliaeth agos a chyffrous yn erbyn Caerfaddon, 82-76.
🎾Tenis y Menywod yn curo UWE, 5-1.
🏐Y tîm pêl-rwyd yn fuddugol o drwch blewyn yn erbyn UWE, 42-40.
💪A thîm Sboncen y Dynion yn trechu Aberystwyth 5-0!

Sylw arbennig i'n Clwb Syrffio, a deithiodd i Newquay, Cernyw, ar gyfer cystadleuaeth flynyddol Penwythnos Syrffio BUCS. Daeth tîm y dynion yn ail yn gyffredinol, a llongyfarchiadau arbennig i Ollie Evans, a dynnodd y sylw â'i fuddugoliaeth unigol a sgôr neilltuol o 18.06 allan o 20! Gwaith anhygoel, Ollie!

Yr wythnos hon, roedd ein tîm Pêl-rwyd 4 yn fuddugol o drwch blewyn, 33-31, yn erbyn tîm Aberystwyth 1, tra llwyddodd y tîm Pêl-rwyd 1af i sicrhau buddugoliaeth gref o 54-35 yn erbyn tîm Caerdydd 2.

Fe wnaeth ein timau Tenis 1af y Dynion a'r Menywod ennill yn gadarn - 5-1 - yn erbyn Met Caerdydd. A draw yn Fairwood, chwaraeodd tîm 1af Lacrosse y Dynion gêm ddisglair, gan guro Caerwysg 9-2!

Gyda dechrau mor gryf i'r tymor, gallwn ddweud yn sicr fod Chwaraeon Abertawe nôl, ac rydym yn barod am flwyddyn fythgofiadwy o gystadlu! 💚🖤

Os ydych chi wedi'ch ysbrydoli gan y perfformiadau gwych hyn ac eisiau archwilio'r ystod eang o glybiau chwaraeon rydyn ni'n eu cynnig, cliciwch yma i ddysgu rhagor a chymryd rhan! P'un a ydych chi'n athletwr profiadol neu'n dymuno rhoi cynnig ar rywbeth newydd, mae clwb i bawb yn Chwaraeon Abertawe! 💚🖤#YmunwchÂ'rTîm

Rhannu'r stori