A oes diddordeb gennych chi mewn cydweithio â Phrifysgol Abertawe?
Mae'r Adran Partneriaeth Academaidd yn hwyluso, ar ran Prifysgol Abertawe, datblygu, tyfu, darparu a goruchwylio partneriaethau academaidd cynaliadwy o ansawdd, trwy ddarparu gwasanaeth cymorth proffesiynol, dibynadwy ac effeithiol. Rydym wedi sefydlu cysylltiadau â sefydliadau allanol parchus, prifysgolion a sefydliadau yn lleol yng Nghymru, y DU, Ewrop a Thramor.
Rydym yn dod â sefydliadau o bob cwr o'r byd ynghyd i greu a datblygu rhaglenni rhyngwladol arloesol, cydweithrediadau a phartneriaethau strategol gyda phrifysgolion o safon fyd-eang. Mae'r partneriaethau rhyngwladol yn cynnwys y rhai â Grenoble Alpes, Paris Sorbonne, Prifysgol Cape Town, Prifysgol Aarhus, Prifysgol Technoleg Auckland a Sefydliad Ymchwil Fethodistaidd Houston, i enwi ond ychydig.
Dod â Phrifysgolion ynghyd
Mae'r partneriaethau byd-eang hyn ar gyfer addysg yn cyfrannu at ddatblygiad strategol, ymchwil addysgol, cyd-gyhoeddiadau rhyngwladol, symudedd a chyfleoedd i wella cyflogaeth i fyfyrwyr.
Amlygwyd Partneriaeth Strategol Sefydliadol Abertawe gyda Phrifysgol Grenoble Alpes, a gynhelir ar sail sefydliadol sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'r meysydd pwnc yn y Brifysgol, fel enghraifft o Arfer Gorau lle mae cydweithredu ymchwil, graddau ar y cyd, cyfnewid staff a myfyrwyr a'r rhannu cyfleusterau.
Mae’r graddau arloesol yn cynnwys PhD ar y Cyd, graddau Meistr a Threfniadau Dilysu mawreddog Erasmus Mundus, lle gall myfyrwyr gymhwyso ar gyfer graddau Prifysgol Abertawe. Mae dau fodel cydweithredu diddorol yn cynnwys trefniant ‘flying faculty’ gyda Phrifysgolion Tsieineaidd a Gradd Ddeuol gyda Phrifysgol Trent, Canada. Mae'r portffolio o raddau a gynigir trwy waith partneriaeth yn cynnwys graddau baglor yn y gwaith a ddarperir gan golegau addysg bellach yng Nghymru.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffoniwch ni ar +44 1792 295604. Rydyn ni yma i'ch helpu chi.