Roedd y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol yn ffodus pan benderfynodd Kennedys Law LLP, sef cwmni cyfraith byd-eang â 67 o swyddfeydd ledled y byd, gyflwyno gwobr newydd ar gyfer myfyrwyr ar raglenni LLM mewn Cyfraith Llongau a Masnach yn 2019.
Mae gan "Wobr Yswiriant Morwrol Kennedys" werth ariannol ac mae hefyd yn cynnig interniaeth; dyfernir y wobr hon i'r myfyriwr ar raglen LLM mewn Cyfraith Llongau a Masnach sydd â'r radd uchaf yn y modiwl Cyfraith Yswiriant Morwrol.
Enillydd y wobr eleni yw Layesh Premraj. Mae Layesh yn gapten cymwysedig a gwblhaodd ei astudiaethau yn Academi Forwrol Singapore ac sydd wedi gweithio ym myd llongau masnachol ers 2009. Felly mae ganddo swm helaeth o wybodaeth ymarferol am longau masnachol.
Aeth yr Athro Soyer, Cyfarwyddwr Cyfraith Llongau a Masnach ym Mhrifysgol Abertawe, a Ms Angela Nicholas, gyda Layesh i ginio i drafod gwaith â’r cwmni yn ogystal â sawl un o’i bartneriaid, lle trafodon nhw’r potensial am gydweithredu ar brosiectau newydd, yn enwedig technolegau datblygol.