Roedd Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe wedi ennill safle ymhlith y 150 orau yn y byd (Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc) am y tro cyntaf yn 2023, ac mae wedi llwyddo i gadw ei safle yn 2024.

Un ffordd o fesur llwyddiant ysgol gyfraith, ac i ddeall ei safle yn rhyngwladol, yw edrych ar Dablau Prifysgolion y Byd.

Mae Quacquarelli Symonds (QS), rhwydwaith addysg uwch rhyngwladol mwyaf y byd, wedi bod yn cyhoeddi Tablau Prifysgolion y Byd ers 2004, a'r fformat cyfredol yw Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc.

I grynhoi'r tablau hyn, mae QS yn asesu enw da academaidd, enw da'r cyflogwr ac effaith ymchwil holl ysgolion y gyfraith yn y byd, sy'n amlygu’r llwyddiant cyffredinol y mae hyn yn ei gynrychioli i Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd yr Athro Alison Perry, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, wrth drafod y canlyniadau:

"Mae'n gyflawniad eithriadol i Ysgol y Gyfraith gael ei chydnabod yn rhyngwladol unwaith eto, ac rydym wrth ein boddau i gadw ein safle sy'n hawlio sylw am yr ail flwyddyn yn olynol yn y 150 orau yn y byd.”

Yn Abertawe, yn ogystal â darparu ymchwil sydd wedi'i chydnabod yn rhyngwladol, rydym yn cynnig rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig â'r nod o baratoi ein myfyrwyr i ymuno ag amgylchedd proffesiynol sy'n datblygu'n gyflym. Mae'r canlyniad hwn yn enghraifft hyfryd ein bod yn llwyddo yn y mentrau hynny. Hoffaf gymryd y cyfle hwn i ddiolch i fy nghydweithwyr am eu hymrwymiad i Ysgol y Gyfraith yn Abertawe, i'n myfyrwyr ac i'r gyfraith fel disgyblaeth."

Rhannu'r stori