Yr Her
Wrth i COVID-19 gyrraedd Cymru, daeth ansicrwydd ar gyfer pob agwedd ar y gymdeithas. Daeth cwestiynau i'r amlwg yn gyflym; sut a ble'r oedd y feirws yn ymledu? Pa effaith byddai'n ei chael ar iechyd cyhoeddus? Sut byddai ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ymdopi â'r pwysau ychwanegol? A pha effeithiau hirdymor byddai'r pandemig yn eu cael ar iechyd a'n ffordd o fyw?
Gwnaeth yr adran Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe droi at ei thîm o wyddonwyr a dadansoddwyr data sy'n ymroddedig ac yn arwain y byd, a dderbyniodd yr her i helpu i fynd i'r afael â'r cwestiynau llosg hyn. Wrth nodi graddfa'r dasg dan sylw, roedd hi'n hanfodol sefydlu 'tasglu' cydweithredol ac ehangach. Felly, ffurfiwyd ymagwedd Un Gymru at COVID-19.
Dulliau
Yn gyflym, crëwyd tîm a fyddai'n tynnu ar yr arbenigedd angenrheidiol i lywio'r gwaith o wneud penderfyniadau polisi ar lefel genedlaethol a lefel ranbarthol. Mae'r tîm yn cynnwys arbenigedd arweiniol o Brifysgol Abertawe, Ymchwil Data Iechyd y DU, Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, Banc Data SAIL, Llwyfan Data'r Glasoed (ADP), BREATHE, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS). Canlyniad y bartneriaeth gydweithredol hon yw ymagwedd ystwyth ac ymatebol at ddadansoddi data a chynhyrchu deallusrwydd sy’n seiliedig ar y blaenoriaethau digyfnewid a’r rhai sy’n datblygu o’r newydd ar gyfer mynd i’r afael â COVID-19 yng Nghymru.
Gyda mynediad at gofnodion dienw biliynau o bobl a storiwyd ym Manc Data SAIL (Secure Anonymised Information Linkage) yr adran Gwyddor Data Poblogaethau, roedd tîm Cymru’n Un yn gallu monitro effaith ystod eang o gysylltiadau â'r feirws a'r canlyniadau ar yr holl boblogaeth, drwy ddefnyddio data dienw cadarn.
Dros gyfnod pandemig COVID-19, roedd hi'n bosib olrhain datblygiad cyflyrau iechyd mewn unigolion ac aelwydydd a phoblogaethau ysgolion, monitro datblygiad ac ymlediad y clefydau a gwerthuso effaith cysylltiad ac effeithiolrwydd triniaethau.
Yr Effaith
Mae Grŵp Cyngor Technegol (TAG) Llywodraeth Cymru wedi gofyn am y deallusrwydd a gynhyrchwyd gan yr adran Gwyddor Data Poblogaethau, ac yna bydd y Grŵp yn adrodd i grŵp SAGE y DU (sef y Grŵp Cyngor Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau).
Yn eu cyfraniad diweddaraf, mae gwaith dadansoddi amser go-iawn a wnaed gan Dr Fry a'i dîm yn yr adran Gwyddor Data Poblogaethau yn dangos ymlediad COVID-19 ar draws Cymru ar fap wedi'i animeiddio. Mae'r prosiect yn defnyddio data patholeg sy'n cadarnhau canlyniad cadarnhaol am COVID-19 yn seiliedig ar gael prawf, a'r dyddiad y cymerwyd y prawf. Caiff y data ei storio mewn modd di-enw a diogel ym Manc Data SAIL, a chaiff ei dynnu oddi yno. Mae porth diogel a ddarperir gan SAIL yn rheoli mynediad at y data, gan ddiogelu preifatrwydd. Yna, caiff data wedi'i dynnu o SAIL ei brosesu er mwyn cynhyrchu mewnbynnau addas ar gyfer modelu geo-orfodol.
Mae'r mewnwelediadau hyn, wedi'u cyflenwi i TAG Llywodraeth Cymru a SAGE y DU, wedi ychwanegu at ein dealltwriaeth o COVID-19 ac wedi helpu i lywio penderfyniadau ynghylch arweiniad a pholisïau ar gyfer cyfnodau cyfyngiadau symud yng Nghymru.