Mae tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n cydweithio â phartneriaid Ewropeaidd i ddefnyddio'r maetholion traul sy'n cael eu cynhyrchu gan wastraff bwyd ac amaethyddol i feithrin microalgâu. Mae'r bio-màs microalgaidd canlyniadol sy'n llawn protein a chyfansoddion defnyddiol eraill wedi cael ei ddefnyddio fel cynhwysyn wrth dreialu porthiant anifeiliaid a physgod.
Arweinir y prosiect ALG-AD, a ariennir gan Interreg Gogledd-orllewin Ewrop, gan dîm yn Adran y Biowyddorau yn Ysgol Gwyddoniaeth a Coleg Pheirianneg Prifysgol Abertawe.
Meddai'r Athro Carole Llewellyn, arweinydd cyffredinol y prosiect: “Mae microalgâu'n ficro-organebau ffotosynthetig anhygoel a geir yn naturiol mewn cefnforoedd a llynnoedd lle maent eisoes yn rhan hanfodol o ecosystem y blaned. Mae ein gwaith yn archwilio ac yn datblygu ffyrdd arloesol o'u rhoi ar waith i ddefnyddio ffrydiau maetholion gwastraff i greu cynhyrchion cynaliadwy.”
Fel rheol, caiff gwastraff bwyd ac amaethyddol ei drin mewn safleoedd penodol gan ddefnyddio proses o'r enw treulio anaerobig. Mae hon yn troi gwastraff yn fionwy, a ddefnyddir at ddibenion ynni, ac yn cynhyrchu maetholion drwy'r broses treulio anaerobig. Mae'r rhan fwyaf o'r cynnyrch yn cael ei ddychwelyd i'r tir fel bio-wrtaith, ond mae cyfyngiadau cyfreithiol llym ynghylch faint ohono y gellir ei ddefnyddio at y diben hwnnw oherwydd risgiau llygredd. Mae'r cyfyngiadau hyn yn arwain yn gynyddol at ormod o faetholion traul, y gall fod yn anodd ac yn ddrud eu storio neu eu gwaredu mewn modd diogel.
Mae ymchwilwyr wedi datblygu technegau prosesu a meithrin sy'n gwneud y defnydd mwyaf o gynnyrch y broses treulio anaerobig ac yn atal y maetholion rhag cael eu gwastraffu fel arall. Gellir defnyddio'r bio-màs algaidd canlyniadol i greu cynhyrchion cynaliadwy – fel cynhwysyn mewn porthiant ac fel biosymbylydd amaethyddol, neu fel cyfansoddion gwerthfawr eraill y gellir eu hechdynnu at ddibenion amgen.
Mae gwaith dadansoddi hyd yn hyn wedi nodi bod microalgâu sy'n cael y porthiant hwn hyd yn oed yn fwy cyfoethog o ran proteinau na rhai sy'n cael eu meithrin drwy gyfryngau arferol. Felly, mae'r tîm yn awyddus i archwilio posibiliadau'r bio-màs hwn ar y farchnad. Nid yw posibiliadau eraill y bio-màs hwn wedi cael eu harchwilio'n llwyr eto.
Ar gyfer ffermwyr, gall algâu gynnig ffynhonnell faethol porthiant ar gyfer da byw – gellir eu storio, nid ydynt yn halogi nac yn pydru, ac maent yn symudadwy ac yn economaidd. Ar ôl cael eu hydrolysu, gellir defnyddio algâu i gryfhau imiwnedd yn hytrach na defnyddio gwrthfiotigau. Yn ogystal, dyma ateb i fynd i'r afael â gormod o wastraff bwyd ac amaethyddol – gyda'i gilydd, mae'r ddau ffactor yn creu fformiwla ar gyfer economi amaethyddol gylchol gynaliadwy.
Meddai Dr Alla Silkina, biodechnolegydd algaidd sy'n gweithio ar y prosiect: “Mae'r prosiect ALG-AD wedi ein galluogi i brofi a datblygu technoleg arloesol ar raddfa berthnasol i ddiwydiant mewn tri safle ledled Ewrop: yn Langage AD yn y DU, Innolab yng Ngwlad Belg a Cooperl yn Ffrainc. Er gwaethaf y gwahaniaethau o ran lleoliad, ansawdd y maetholion traul, gweithdrefnau gweithredu a dylunio, mae'r tri chyfleuster yn tyfu microalgâu'n llwyddiannus. Rydym bellach yn ystyried rhoi'r dechnoleg ar waith yn ehangach.”
Y nod yw y caiff y dull gweithredu newydd hwn ei fabwysiadu gan safleoedd ledled gogledd-orllewin Ewrop, sy'n ardal hynod amaethyddol â phoblogaeth fawr ac sydd felly'n cyfrannu'n anghymesur at y gwastraff bwyd ac amaethyddol a gynhyrchir yn yr UE bob blwyddyn. Bydd hyn yn lleihau risg llygredd sy'n deillio o wasgaru nitradau ar y tir, yn ogystal â chynnig dewis amgen i soia sy'n cael ei feithrin yn lleol. Mae'r tîm hefyd yn datblygu adnoddau cefnogi penderfyniadau a chanllawiau arferion gorau er mwyn helpu eraill i ddatblygu a mabwysiadu'r dechnoleg newydd.
Meddai'r Athro Carole Llewellyn: “Mae gan ficroalgâu allu anhygoel i ddefnyddio'r hyn sy'n ddiwerth i ni, sef maetholion dros ben a CO2, a chynhyrchu'r hyn sy'n werthfawr i ni, sef cynhyrchion cynaliadwy. Maent yn cynnig ateb atyniadol iawn i lawer o'r heriau cymdeithasol rydym yn eu hwynebu o ran llygredd maetholion ac o ran yr angen cynyddol i fyw mewn modd mwy cynaliadwy.”