TROSOLWG O'R PENNOD
Mae'r byd yn colli'r frwydr yn erbyn bacteria ac yn rhedeg allan o wrthfiotigau effeithiol ... ond a oes modd i gynrhon achub yr hil ddynol? Yn y bennod hon, mae'r Gwyddonydd Biofeddygol, yr Athro Yamni Nigam, yn trafod ei hymchwil i glwyfau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Siarada Yamni am ddefnyddio cynrhon i frwydro yn erbyn yr argyfwng gwrthficrobaidd a gwella clwyfau heintiedig wrth weithio i oresgyn y “ffactor ych” sy'n gysylltiedig â'r pwerdai meddygol hen bryf annifyr hyn.
AM EIN HARBENIGWYR
Mae Yamni Nigam yn Athro Cysylltiol mewn Gwyddor Biofeddygol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe. Mae hi'n darlithio mewn anatomeg, ffisioleg a pathoffisioleg ac mae ei phynciau addysgu arbenigol yn cynnwys treuliad, gwaed, imiwnoleg, microbioleg, parasitoleg a chlwyfau (haint ac iachâd).
Yn 2001, sefydlodd Grŵp Ymchwil Cynrhon Abertawe, sy'n canolbwyntio ar y cynrhon meddyginiaethol, Lucilia sericata, a'r moleciwlau sy'n ymwneud â therapi larfa. Mae hi a'i thîm wedi cynnal nifer o ymchwiliadau, ac wedi cyhoeddi eu canfyddiadau yn bennaf ar weithgaredd gwrthficrobaidd secretiadau larfa, a moleciwlau iachâd clwyfau sy'n gysylltiedig â'r pryfyn hwn.
Yn 2016, lansiodd Yamni yr ymgyrch Caru Cynrhonyn i geisio newid y canfyddiad negyddol o gynrhon mewn cymdeithas a chodi ymwybyddiaeth o'r defnydd o gynrhon byw fel triniaeth glinigol i helpu i glirio a gwella clwyfau cronig.
Gwrandewch ar eich hoff blatfform
Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.