Cymerwch ran yn ein rhaglen o ddarlithoedd, gweminarau a digwyddiadau ar-lein a luniwyd er mwyn rhoi rhagflas i chi ar yr amrywiaeth o bynciau sydd gennym a’r cynnwys y byddwch chi'n ei astudio gyda ni.

Gan gynnwys darlithwyr a fydd yn addysgu ar eich cynllun gradd, ynghyd â sylwadau gan fyfyrwyr presennol, mae'r rhaglen hon yn gyfle i chi weld sut beth yw astudio gyda ni yn yr Ysgol Reolaeth.

Cymerwch ran mewn sesiynau a fydd o ddiddordeb i chi ac a fydd yn magu eich hyder ac yn eich paratoi chi ar ddechrau eich cwrs.

Gwyliwch weminarau blaenorol yma

Rheoli Busnes

'Sut gall gradd mewn Rheoli Busnes agor drysau i chi?' Recordiwyd: 02/11/2020.

Marchnata

'Astudiwch Farchnata: Eich llwybr at yrfa amrywiol iawn.' Recordiwyd: 03/11/2020

Cyfrifyddu a Chyllid

'Cyfrifyddu a Chyllid: Mwy na chrensio rhifau yn unig.' Recordiwyd: 04/11/2020

Twristiaeth

'Astudio Twristiaeth: Byddwch yn rhan o’r ateb cynaliadwy.' Recordiwyd: 05/11/2020

Blwyddyn Sylfaen

'Blwyddyn Sylfaen yr Ysgol Reolaeth: Popeth mae ei angen arnoch i lwyddo!' Recordiwyd: 10/11/2020